Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, February 15, 2007

Ydi'r pwer niwclear yn anochel?

Ron i'n gwrando ar Prif Weinidog, Tony Blair yn siarad ar y Newyddion heno. Fel arfer, dw i'n troi'r teledu i ffwrdd os byth Blair arno fe - ond heddiw, ron i eisiau gwybod beth oedd ei ymateb i'r sylwadau'r Barnwr, Mr Ustus Sullivan ar ymgynghoriad y Llywodraeth ar ffodd ymlaen i bwer nuclear. Roedd y Barnwr wedi disgrifio y gynghoriad fel "proses annheg" ac "yn gamarweiniol". Roedd y sylwadau yn ergyd enfawr i'r cynlliniau y Llywodraeth. Nawr, bydd rhaid i'r Llywodraeth cynnal ymgyngoriad newydd.

Ond yr ymateb Tony Blair? Dim problem! Dim ond cwestiwn o broses ydi e. Fydd dim newid yn yr amserlen na'r cynlliniau y Llywodraeth o gwbl. Dim ots yr hyn mae Mr Ustus Sullivan yn ei ddweud. Dim ots yr hyn mae'r pobl Brydain yn meddwl. Bydd rhaid i ni gael gorsafoedd niwclear newydd - a dyna diwedd y dadl, yn ol Tony Blair. Yn anffodus, mae posibilrwdd bod y Prif Weinidog yn gywir y tro 'ma.

Drwgdybiaeth ydi fy nheimlad tuag at pwer niwclear - ble mae'r wastraff niwclear yn mynd. Ac roeddwn i'n teimlo fel na tuag at LNG yn Sir Benfro hefyd. Ond dw i wedi derbyn does dim opsiwn heb gael LNG ac mae'n edrych mwy debygol bob dydd bydd pwer niwclear yn anochel hefyd. Bydd neb yn barod i dderbyn y goleadau yn mynd allan. Maen amlwg bod Tony Blair wedi penderfynnu yn barod beth bynnag.

Thursday, February 08, 2007

'Pawb a'i Farn' Heno

Hanner awr wedi un yn y bore a dw i newydd gyrraedd adre' ar ol ymddangos ar 'Pawb a'i Farn' yn Y Bontfaen. Heno oedd yr ail dro i fi ymddangos ar y rhaglen fel gwestai a rhaid i mi ddweud roedd y sioe llawer mwy haws na'r tro cynta. Mwynheuais bod ar y panel heno, oherwydd dw i'n admygu panelwyr eraill. Roedd Adam Price, AS Plaid Cymru a Carwyn Jones, AC Lafur yna. Weithiau wrth gwrs, dw i ddim yn cytuno a'r hyn mae nhw'n ei ddweud ond rhaid i mi gyfadde maen nhw'n wleidyddion trawiadol. Roedd arbenigydd gwleidyddol, Non Gwilym oedd y pedwerydd aelod ar y panel ac mae llawer o parch gyda fi tuag at ei barn hi hefyd

Roedd un cwestiwn heno ar Irac, un ar Fliw Adar, un ar prescripsiwnau am ddim ac un ar newid hinsawdd. Roedd cwestiwn ar Irac yn berffaith i Adam wrth gwrs, ond yn annodd iawn i Carwyn ar ol y ffordd y mae Rhodri Morgan wedi ateb yr un cwestiwn yn y gorffenol. Pan ron i'n ateb y cwestiwn ar Fliw Adar, do'n i ddim yn gwybod bod cysylltiad rhwng twrcwn yn Hwngari a thwrcwn yn Holton wedi cael ei cadarnhau. Taswn i wedi gwybod, baswn i wedi bod mwy beirniadol o'r Llywodraeth. Mae'n ymddangos mai problem 'biosecurity' ydi e - ac mae hyn yn fater i'r Llywodraeth. Roedd Non yn fantastic ar y cwestiwn o brescripsiwnau a chollodd Carwyn ag Adam y dadl. Doedd y cynylleidfa ddim yn dwp chwaith. Roedd y mwyafrif yn cytuno a Non. Mae pobl yn gallu gweld llwygrwobrwy pan mae'nos bydd rhy amlwg.

Bob tro dw i'n ymddangos ar y cyfryngau, dw i'n trio defnyddio geiriau newydd. Roedd tri gair newydd heno. Defnyddiais i 'dadwneud' a 'hunangyflogedig' ac 'amhoblogrwydd' am y tro cynta - triawd dda iawn. Gobeithio bydda i'n cael gwahoddiad i ymddangos ar 'Pawb a'i Farn' rhywbryd eto yn y dyfodol agos.