Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, March 15, 2007

Lowts yn Cambihafio yn HQ

Dw i'n mwynhau darllen colofn Rod Richards yn Golwg bob wythnos. Ond dw i ddim yn siwr beth i feddwl wythnos yma. Mae Rod yn son am lowts yn Twickers.

Aeth Rod i HQ i weld y gem rhwng LLoegr a Ffrainc. Aeth pethau yn iawn tan aeth e i'r toiled yn ystod y gem. Roedd pobl yn drewi o champagne, ysgrifenodd Rod, ac yn piso mewn basin molchi. Roedd hyn yn anerbyniol i Rod - achos roedd bod llefydd iawn ar gael i'r lowts gwneud hyn. Mae piso mewn basin molchi yn iawn pan mae ciw!

Dwi'n cofio sefyll yn y terraces yn yr hen Parc yr Arfau a gwelais i rhywun yn trio piso yn fy mhoced. Ro'n i'n lwcus iawn i sylwyddoli yn hyn oedd e'n wneud cyn iddo fe dechrau y busnes. Dw i ddim eisiau dweud yn union beth digwyddodd - ond roedd ei fwts yn llawer mwy wlyb na fy mhoced ac roedd e ddim yn teimlo yn dda yn ystod gweddill y gem. Wrth gwrs, y lle gorau i weld y gem ydi eistedd ym mocs BBC a S4/C. Does dim llawer o lowts yna.

Yn ol i Gyneifio

Dw i wedi bod yn ystyried beth i wneud ar ol y 4ydd o Fai, os bydda i'n colli fy sedd yn y Cynulliad. Ar ol darllen Golwg heddiw, dw i'n gwybod. Bydda i'n dechrau cyneifio eto.

Mae'n edrych fel bydd y cneifwyr o Seland Newydd yn aros gartref eleni oherwydd bod Y Canghellor, Gordon Brown, yn bwriadu eu trethi nhw gormod. Bydd hwn yn handi iawn i fi. Does dim llawer o bobl yn gwybod hyn, ond dw i'n dipyn o gneifwr. Pan ro'n i'n ddyn ifanc yn fy arddegau, ro'n i'n mynd allan fel contractwr i gneifio o gwmpas y lle yn Sir Drefaldwyn. A dw i dal yn gallu gwneud y swydd tn iawn.

Ro'n i ar y llwyfan yn y Sioe Frenhinol yn Llanfair y Muallt pum mlynedd yn ol, a chyneifiais i tair dafad mewn pedair muned. Felly, cofiwch - os bydd defaid gyda chi sy angen gael eu cyneifio ar ol Mis Mai, ffoniwch fi os na bydd pethau yn weithio allan yn yr etholiad.

Thursday, March 08, 2007

Pwy ydi Mike German

Dw i wedi dysgu o'r cylchgrawn, Golwg wythnos yma does neb o gwbwl yng Ngheredigion yn gwybod mai Mike German yr arweinydd y Democratiaid Rhydfrydol. Mae hwn dipyn od, oherwydd bod Democratiad Rhydfrydol, Mark Williams yr Aelod Seneddol sy'n cynrychioli yr ardal yn San Steffan. Daeth y gwybodaeth hyn allan mewn pol piniwn ar BBC wythnos diwetha. Rhaid i mi gyfadde does dim llawer o bobl yn gwybod pwy sy'n arwain Plaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol chwaith. Dydy Ieuan Wyn Jones a Nick Bourne ddim yn enwog iawn yng Ngheredigion.

Mae absonoldeb gwybodaeth am yr etholiad sy'n digwydd ym Mis Mai yn broblem i bob un ohonon ni sy eisiau y Cynulliad bod yn llwyddiannus. Mae yr un pol piniwn yn dweud dydy ddim llawer o bobl yn bwriadu pleidleisio yn yr etholiad. Y cwestiwn mawr ydi sut i newid agwedd popl Cymru, yn enwedig pobl ifanc tuag at y Cynulliad.

Yr unig ffordd mae Golwg yn awgrymu ydi dweud jocs anaddas - fel Rhodri. Pa fath o farn ydi hwn. Nesa, bydd y cylchgrawn yn awgrymu bod yn syniad da i gyrraedd yn hwyr i gwrdd a'r Frenhines. Neu mynd i siarad am Ryder Cup yn well na mynd i gofio pobl a chollodd eu bywydau yn y D Day landings. Na. Mae'r cyfrifoldeb ar y gwleidyddion ar y blaidiau i godi eu gem. Dw i ddim yn credu mai llawer o bobl yn gwybod bod Mike German yn arwain y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Drefaldwyn. Mae pawb yn credu bod Lembit Opik yn arwain y Blaid.