Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, December 07, 2008

Peter Hain.

Mae Peter Hain wedi bod ar ein sginiau teledu trwy'r penwythnos. Rhaid i mi ddweud yn syth, dow'n i ddim yn meddwl bod e'n euog o wneud dim byd ond camgymeriad. Dydw i ddim yn meddwl bod e'n dyn anhonest o gwbl. Felly, dw i'n falch iawn i glywed na fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymryd camau yn ei erbyn mewn cysylltiad y roddion ariannol yn ei ymgyrch i ddod yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, yn lle John Prescott. Dw i'n siwr roedd y misoedd diwetha wedi bod yn amser annodd iawn i Peter a'i teulu, yn enwedig Liz, ei wraig.

Ond rhiad i ni cofio hefyd, roedd problemau mawr mewn y ffordd roedd ei ymgyrch yn gofrestru y roddion. Rhaid i ni cofio yr unig rheswm penderfynnodd y Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio cymryd camau yn erbyn unrhwyn yn 'tim Peter'. Roedd y galanastra mor ddrwg i wneud yn amhosib i ffindio allan gyda phwy oedd y cyfrifoldeb. Yn fy marn i bod rhaid i Peter cymryd rhan o'r cyfrifoldeb am beth digwyddodd.

Mae pobl yn y 'Bubble' yn y Bae Gaerdydd yn son nawr am Peter yn dychwelyd i'r Cabinet. Dw i ddim yn disgwyl hwn yn digwydd yn fuan. Ond wrth gwrs, mae'n posib bydd y Speaker yn San steffan yn ymddiswyddo, a bod yn posib bydd Paul Murphy cymryd ei lle. Does na ddim Aelod Seneddol Lafur arall yn sefyll allan. Hey presto! Peter Hain yn ol mewn Cabinet. Ac hefyd, os bydd e'n posib i'r Arglwdd Mandelson o Foy dod yn ol, budd popeth yn posib.

Saturday, December 06, 2008

Ffindio Modrwyau.

Clywais i gyfweliad neis ar y radio ddoe - 5 Live dw i'n credu. Ac mae'r stori ar y wefan yma. Carys Williams o Gorwen oedd seren. Collodd hi ei modrwy tri deg a phump blwyddyn yn ol. Cafodd hi y modryw fel anrheg ar ei phenblwydd pan roedd hi'n un ar bumtheg oed. Collodd y modrwy pan roedd hi yng Nghapel Moriah. Cwympodd ar y llawr a ddiflannodd trwy crac rhwng y bwrddaullawr. Ond nawr, bod Capel yn cael ei tynnu lawr. Ffindiodd y gweithwyr y modrwy ar ol chwilio am awr - ar ol i Carys yn gofyn. Roedd hi'n diolchgar dros ben, ac dwedodd hi ar 5 Live, bydd hi'n byth yn tynnu modrwy wrth ei fys eto.

Dw i'n teimlo dipyn o gydymdeimlad gyda Carys Williams. Mae wraig fi wedi colli ei modrwy priodas dwywaith. Amser maith yn ol, dw i'n cofio dod adre o'r fferm i ffindio hi'n crio. Roedd hi'n wedi colli modrwy. Gofynnais i beth roedd hi'n wedi bod yn wnead ac es i trwy popeth yn gofalus. Roedd hi'n wedi bod yn plannu Wallflowers a chloddias i bob un ohonnon nhw i fynnu. Ffindiais i y modrwy yn y daear, o dan un o'r Wallflowers.

Ac hefyd, collais Mrs D ei modrwy ar y traeth yn New Quay yng Ngheredigion. Roedd hi'n gwybod ble chollais, ond doedden ni ddim yn gallu ffindio yn y tywod. Ond spottiais i dyn gyda metal detector yn gweithio y traeth. Gofynnais iddo fe helpu, ac ar ol ffindio pethau amrwyiol arall, ffindiodd e y modrwy. Mae Mrs D wedi bod mwy gofalus erbyn hynny. Gobeithio bydd Carys Williams mwy gofalus hefyd.

Monday, October 27, 2008

Lansiad yn Llantrisant heddiw.

Roedd fel bod ar y set Con Passionate, gyda Carys Wyn cymryd rol Sian Cothi. Roedd Cor Meibion Mynyddislwyn mewn hwyl dda heddiw, yn canu 'Fly me to the Moon', 'My Way', 'Raise me up' a 'Rhythem of Life'. Dyweddais i wrth Carys, "ydi antics y Cor ar Con Passionate yn realistig?" Roedd rhai o'r canwyr yn gwenu, a gwenodd Carys hefyd. Gofynnais i "Pwy ydi'r deintydd?"

Roedd y Cor Meibion yn Llantrisant heddiw, cymryd rhan mewn lansiad 'Scrinio Coluddion Cymru'. Roedd ITV, BBC A S4/C a'r Western Mail yna hefyd. Swydd fi oedd siarad am 'Patient's Perspective'. Dw i wedi cwyno o'r blaen bod y rhaglen i scrinio yn rhedyg tu ol rhaglenni yn Lloegr ac Yr Alban, ond heddiw oedd diwrnod i ddathlu y rhaglen scrinio dechrau yng Nghymru. Bydd 'Home Test Kits' yn cael ei postio allan nawr i menywod a dynion rhwng 60-69 oed. Dyma'r clip aeth allan ar BBC heno. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7691719.stm

Sunday, October 26, 2008

Scrinio Coluddion Cymru.



Yfori, dw i'n mynd lawr i Lantrisant i gymryd rhan mewn lansiad Scrinio Coluddion Cymru. Dw i wedi bod cefnogwr mawr am weld rhaglen scrinio dros Cymru ers diodde o'r clefyd yn 2002. Roedd diagnosis gynnar yr unig rheswm dw i'n yma heddiw.

Mae r cannoedd o bobl yn cerdded o gwmpas Gymru heddiw gyda chwydd yn datblygu mewn eu chyrff, a dydyn nhw'n gwybod dim byd amdanyn. Bydden nhw gwybod dim byd tan bydd y chwydd yn bygythiad i eu bywydau. Mae'r Cancr y Coluddion y lladdwr trydydd mwya yng Nghumru, ac un rheswm ydi pobl anwybyddu'r arwyddion.

Bydd bron dwy gant mil o test kits yn mynd allan i merched a dynion rhwng 60-69 oed trwy'r wythnos. Bydd hwn y tro cynta i dynion gael cyfle i gyfranogi mewn rhaglen scrinio. Gobeithio bydden nhw'n fodlon.

Monday, October 20, 2008

Bryn Terfyl - Patron YDCW.

Cyfweliad ar Radio Cymru heddiw. Dw i'n hoffi siarad a Gareth Glyn ar Post Prynhawn. Dim ffys o gwbl. Stopio ar ochr y ffordd, a gwneud cyfweliad ar fy ffon symudol. Pwnc y prynhawn 'ma oedd Bryn Terfyl yn dod 'patron' Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Dw i'n Llywydd yr elysen ar hyn o bryd, a dyn ni i gyd yn falch iawn i gael Bryn Terfyl fel 'patron'. Mae pawb dros y byd yn nabod Bryn Terfyl, a gobeithio bydd mwy ohonnyn nhw yn gwybod am yr Ymgyrch yn y dyfodol.

Penwythnos diwetha, roedd yr Ymgyrch yn dathlu penblwydd wyth deg oed ym Mhortmeirion. Roedd Bryn a Lesley Terfyl yna, a Derec Llwyd Morgan, Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas a Mair, a Sian Lloyd a Jonathon hefyd. Ac rhwle yn y torf oedd canwr enwog arall o Wynnedd, Dafydd Iwan. Dw i'n hoffi clywed Dafydd canu ar fy CD player yn fy nhgar. Beth bynnag, gobeithio bydd yr Ymgyrch yn llwddiannus ymhen wyth deg blwydd arall.

Monday, October 06, 2008

Adroddiad Yr Argwydd Roberts o Gonwy.

Mis Mawrth, eleni, cyhoeddodd David Cameron bydd Yr Argwydd Roberts yn mynd i baratoi adroddiad i amlinelli polici y Geidwadwyr tuag at datganoli. Rown i'n disgwyl clywed rhywbeth am yr argymellion ym Mis Gorfennaf. Ond erbyn hun, dy ni wedi clywed dim byd. Ond heddiw, mae Betsan Powys wedi hawlio bod hi'n wedi dysgu rhywbeth. Ar ei blog, mae hi'n son am ugain mil gair yn yr adroddiad, ac mae hi'n rhagweld argymell i gynnal 'Un comisiwn arall'. Wel, dw i wedi clywed dim byd.

Ond mae cwestiwnau wedi newid ar ol sylwadau Peter Hain ar y Politics Show, Dydd Sul. Does neb yn disgwyl refferendwm cyn 2011 nawr. Posib, na fydd refferendwm yn cael ei cynnal cyn 2020. Dyna beth oedd Peter Hain yn dweud ddoe. Ac wrth gwrs, does dim pwynt cynnal un heb bod yn siwr bydd mwyafrif o bleidleiswyr yn mynd i gefnogi pwerau llawn i'r Cynulliad. Y ffordd ymlaen nawr ydy sicrhau bydd y system presennol yn weithio. Yn fy marn fi, os bydd ACau ac ASau yn gweithio'n galed i drosglwddo pwer i'r Cynulliad trwy'r LCOs (Legislative Competence Orders) mae'n posib gweld Senedd gyda pwerau llawn yng Nghaerdydd mewn llai na degawd.

Blwddyn yn ol, rown i isso gweld refferendwm. Ond mae momemtwm wedi mynd - oherwydd bod Clymblaid sy'n rhedeg Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn didderio ac yn wobblio. Nawr, dw i isso gweld pwerau llawn mewn maesydd sy wedi cael ei datganoli yn trosglwddo trwy ffordd arall. Bydd diddoral gweld beth sydd yn adroddiad Roberts ar awgrymiad hwn!

Sunday, October 05, 2008

Barn Peter Hain.

Dw i wedi penderfynu dechrau bloggio yn y Gymraeg eto. Ond bod un problem mawr. Does neb ar gael i gywiro fy nghramadeg, a neb i helpu fi gyda fy sillafu. Piedwch chwerthin. Yn siwr, bydd sawl camcymeriadau, ond yr unig fordd i ddysgu ydy defnyddio. 'Defnyddio neu Colli' ydy'r motto fi.

Roedd Peter Hain ar y 'Politics Show' ar BBC1 heddiw, ac roedd yr hyn a ddwedodd yn diddorol iawn. Dydy e ddim isso gweld referendwm ar drosglwddo pwerau llawn i'r Cynulliad am dros degawd. Dwedodd e bod mwyafrif aelodau Plaid Lafur yr erbyn yr addewid sydd mewn y Cytundeb 'One Wales' i gynnal referendwm cyn 2011 - ACau, ASau ac aelodau cyffredin. Mae'n amlwg nawr, does dim posibilrywdd gael referendwm cyn yr Etholiad Y Cynulliad nesa. Mae'n edrych dipyn fel roedd dim bwriad gyda Lafur i gynnal referendwm pan oedd Plaid Cymru a Lafur yn creu Y Glymblaid. Cofiwch - roedd Peter Hain yn rhan o'r trafodaethau ar y pryd. Beth bod y popl a chefnogodd Y Glymblaid yn meddwl ar ol clywed Peter heddiw. Bydd dim syndod i fi os bydd cyfarfod bach rhwng Rhodri Morgan ac arwainydd newydd y Lib Dems yn fuan yn y Blwyddyn Newydd.

Cwestiwn pwysica' nawr ydy "Beth ydy'r ffordd gorau ymlaen i bobl fel fi sy isso gweld Cynulliad gyda pwerau llawn". Bydda i'n bloggio ar y mater hwn y tro nesa.