Golygfa o Gymru Wledig

Tuesday, September 18, 2007

Penblwydd degfed datganoli

Mae pawb wedi bod yn dathlu penblwydd degfed datganoli heddiw, a dw i wedi bod yn cofio yr hyn rown i'n gwneud ar y daunawfed o Fedi 1997. Rown i yn y cyfrif swyddogol y refferendwm yn Llandrindod Wells. Roedd deg ohonyn ni yn erbyn datgonoli yna, a deg arall o blaid, i sicrhau bod dim byd allan o ei le yn y cyfrif.

I ddechrau, yn fuan ar ol dechrau cyfrif y blaidleisiau, roedden ni i gyd yn disgwyl y refferendwm dweud Na. Ond ar ol awr, roedden ni'n rhagweld buddigoliaeth i gefnogwyr datganoli. Roedden nhw'n dechrau gwenu. Awr arall, ac roedden nhw'n disgwyl colli eto. Pedwar o'r gloch yn y bore a ddaeth canlyniad o Gaerfyrddin. Stoppiodd cefnogwyr datganoli yn crio a dechrauon nhw'n dawnsio a ddathlu. Roedd llawer o hapusrwydd yn Llandrindod.

Rowddwn i yr un o'r ochr yn erbyn datganoli yna. Roedd y naw arall wedi mynd adref, meddwl roedd ein ochr wedi ennill. Tipyn o sioc yn y bore! Penderynnais i ymuno y dathliadau. Roedd Gwilym Fychan wedi dweud wrtho fi cyn y cyfrif roedd e'n credu rown i'n cefnogwr cyfrinachol. Dw i ddim eisiau dweud dim byd am hwn - hyd yn oed heddiw. Ond rhaid i mi dweud, mwynhauais i y dathliadau.

Pan roeddwn i gyrru adref, penderfynnais i bydd datganoli y dyfodol yng Nghymru. Penderfynnais i hefyd bydd rhaid i'r Cynulliad newydd gael pwerau llawn i weithio yn effaithiol. Dw i ddim wedi newydd fy meddwl am hwn erbyn heddiw. Heb pwerau llawn dw i ddim yn credu bod y Cynulliad yn gweithio mor dda a dw i eisiau. Gobeithio bydd polisi i gynnal refferendwm i sefydlu Senedd fel yr un sy yn Yr Alban yn ein maniffesto i'r Etholiad Cyffredinol nesaf. Gawn ni weld.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home