Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, June 03, 2007

Sgwrs bach yn Ponterwyd.

Wythnos diwetha, pan roedden ni'n mynd adre' o Aberystwyth, stoppiais yn y garej ym Mhonterwyd i brynu petrol. Roedd car arall yna hefyd. Roedd y gyrrwr yn merch od iawn. Roedd hi'n eistedd yn ei char darllen map 'upside down'. Roedd ei gwallt bob lliw mewn enfys ac reodd hi'n edrych fel rhywun sy wedi bod ar cyffuriau. Ond roedd hi'n pert hefyd.

Windiodd hi ffenestr ei char i lawr a gofynnodd "Is this Ponterwood?" Roedd gwen cyfeillgar ar ei wyneb. "Ble wyt ti'n mynd", gofynnais i. "Essex" roedd ei ateb. Dywedais i "Syth ymlaen i'r cylchdro yn Llangurig, a throi i'r chwith. Wedyn, syth ymlaen i Essex".

Dw i ddim yn gwybod beth digwyddodd ar ol hynny.

1 Comments:

  • Falch i dy weld ar Wedi Saith neithiwr Glyn a bod dy Gymraeg mor dda. Byddai dy Daid a dy nain yn falch ohonot.
    Piti i mi fethu dy weld tra yn y cynulliad a cael 'tour' o'r sennedd .
    Cofion fil
    Dy gyfnither
    Mari (Davies) Gyfylche Llanerfyl - Llysfaen Caerdydd rwan1

    By Blogger Unknown, at 18 July, 2007 01:34  

Post a Comment

<< Home