Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, February 15, 2007

Ydi'r pwer niwclear yn anochel?

Ron i'n gwrando ar Prif Weinidog, Tony Blair yn siarad ar y Newyddion heno. Fel arfer, dw i'n troi'r teledu i ffwrdd os byth Blair arno fe - ond heddiw, ron i eisiau gwybod beth oedd ei ymateb i'r sylwadau'r Barnwr, Mr Ustus Sullivan ar ymgynghoriad y Llywodraeth ar ffodd ymlaen i bwer nuclear. Roedd y Barnwr wedi disgrifio y gynghoriad fel "proses annheg" ac "yn gamarweiniol". Roedd y sylwadau yn ergyd enfawr i'r cynlliniau y Llywodraeth. Nawr, bydd rhaid i'r Llywodraeth cynnal ymgyngoriad newydd.

Ond yr ymateb Tony Blair? Dim problem! Dim ond cwestiwn o broses ydi e. Fydd dim newid yn yr amserlen na'r cynlliniau y Llywodraeth o gwbl. Dim ots yr hyn mae Mr Ustus Sullivan yn ei ddweud. Dim ots yr hyn mae'r pobl Brydain yn meddwl. Bydd rhaid i ni gael gorsafoedd niwclear newydd - a dyna diwedd y dadl, yn ol Tony Blair. Yn anffodus, mae posibilrwdd bod y Prif Weinidog yn gywir y tro 'ma.

Drwgdybiaeth ydi fy nheimlad tuag at pwer niwclear - ble mae'r wastraff niwclear yn mynd. Ac roeddwn i'n teimlo fel na tuag at LNG yn Sir Benfro hefyd. Ond dw i wedi derbyn does dim opsiwn heb gael LNG ac mae'n edrych mwy debygol bob dydd bydd pwer niwclear yn anochel hefyd. Bydd neb yn barod i dderbyn y goleadau yn mynd allan. Maen amlwg bod Tony Blair wedi penderfynnu yn barod beth bynnag.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home