Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, January 28, 2007

Polisi Newydd Yng Nghwynedd

Gwelais i Richard Parry Hughes ar Manifesto heddiw yn son am bolisi cynllunio newydd yng Nghwynedd. Yn ol Arweinydd y cyngor, bydd rhaid i unrhyw datblygyddion sy eisiau codi tai neu adailadau eraill sicrhau nad yw'r datblygiadau yn niweidio'r Iaith. Mae'r polisi hwn yn codi llawer o bryderon. Bydd yn diddorol iawn i mi weld pa effaith bydd y polisi yn gael dros y blynyddoedd nesa'. Wrth gwrs, bydd yr effaith yn dibynnu ar y ffordd y bydd y Cyngor yn gweithredu'r polisi.

Dw i'n cytuno bod e'n resymol i gynghorwyr ystyried yr effaith bydd y datblygiadau yn cael ar yr Iaith, a dw i'n fodlon gweld cyfrifoldebau rhesymol yn eu caniatad cynllunio. Ond dw i ddim isho gweld busnesau yn mynd i rywle arall oherwydd ofn polisi newydd. Os na fydd yr Awdurdod yn gweithredu polisi yn sensitif bydd posibilrwydd atal twf economaidd yng Nghwynedd - a bydd hwn yn gorfodi mwy o bobl ifanc i symud allan o'r Sir i gael gwaith. Bydd hyn yn niweidio'r Iaith mwy na'r hyn oedd yn digwydd o'r blaen.

3 Comments:

Post a Comment

<< Home