Golygfa o Gymru Wledig

Saturday, January 27, 2007

Rhaid i ni gefnogi Tir Mynydd

Dw i'n cefnogi'r 'Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar' - ond yn anffodus, dw i'n ffindio fy hun ar ochr arall y ffens ynglyn a chynllun Tir Mynydd i ffermwyr yr ucheldir. Dw i'n deall yn iawn y rheswm pam y mae Gymdeithas yn erbyn gweld mwy o arian yn mynd i mewn i'r cynllun yma. Mean nhw'n gwybod bydd llai o arian yn mynd i'r cynlluniau eraill fel Tir Gofal a Tir Cynnal, cynlluniau gyda'u nod i gefnogi yr amgylchedd.

Ond roedd bob un o'r wrthbleidiau, yn ystod y trafodaethau ar Gyllideb Terfynol y Cynulliad Mis Rhagfyr diwetha, yn galw am fwy o arian tuag at Gynllun Tir Mynydd. Bydd cyfrifoldeb ar y Pwllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefngwlad i benderfynnu o ble bydd yr arian yn dod, a dyn ni'n mynd i drafod y pwnc yma ar 7fed o Chwefror. Bydd rhaid i fi, fel Cadeirydd, dderbyn yr hyn sy wedi dod allan o benerfyniadau arweinyddion y gwrthbleidiau.

Dw i'n siomedig iawn gyda'r y syfyllfa yma. Dw i ddim eisiau torri nol ar yr arian Tir Gofal a Tir Cynnal oherwydd mae cynlluniau hyn yn gwneud gwelliannau sydd o fudd i'r amgylchedd. Ond dyn ni wedi addo bydd yr arian ar gael i Gynllun Tir Mynydd yn codi - addewid yw addewid. Yr hyn dw i eisiau gweld wrth gwrs ydi mwy o arian, ond mae'r 'Trysorlys' wedi dweud 'Na' yn barod. Bydd cyfarfod y Pwllgor ar y 7fed o Chwefror yn un annodd iawn.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home