Golygfa o Gymru Wledig

Saturday, January 20, 2007

Ymosodiad arall ar Plaid Cymru

Mae'r Aelod Seneddol, Leighton Andrews wedi ymosod unwaith eto ar Plaid Cymru. Yn y Western Mail heddiw, mae AC Y Rhondda yn cwyno bod Rhodri Morgan wedi ei wahardd rhag beirniadu Ieuan Wyn Jones ynglyn a'r ffordd newidiodd Ieuan ei agwedd tuag at y Gyllideb Terfynol ym Mis Rhagfyr, y llynedd. Unwaith eto mae Leighton yn cymryd pob cyfle i ddangos ei gasineb tuag at popeth yn ymwneud a Phlaid Cymru.

Nawr, yr hyn sy'n od ydi agwedd Ieuan Wyn Jones a rhai o'r ACau eraill tuag at Lafur. Er gwaethaf ymosodiadau Leighton ac eraill ar ei blaid, mae Ieuan yn gwenu ac yn cadw'n ddistaw. Dw i'n siarad a lot o bobl sy ddim yn gallu deall pam bod arweinyddion Plaid Cymru yn rhedeg ar ol Llafur, fel moch ar ol bwced. Mae'n amser i'r aelodau cyffredin esbonio i Ieuan y ffordd mae Llafur wedi gwneud niwed i'r Iaith a diwilliant Cymru dros y blynyddoedd diwetha. Mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn.

Fy awgrym ydi " agorwch eich llygaid Plaid Cymru, ac edrychwch ar y Tories"

0 Comments:

Post a Comment

<< Home