Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, December 28, 2006

Atebwch y Cwestiwn eich hun, Rhodri Glyn

Darllenais i sylwadau rhyfedd yn y Western Mail heddiw. Roedd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas yn herio Rhodri Morgan i ddweud yn union beth bydd e'n ei wneud ar ol yr etholiad ym Mis Mai nesa. Dyma'r hyn a ddywedodd Rhodri Glyn:

"Its ridiculous for Rhodri Morgan to cling to the fiction he is going to win a majority. The people of Wales have a right to know what Labour will do after the election"

Wel, mae hy n yn diddorol iawn i ni. Mae'n wir bod pawb eisiau gwybod beth sy ym meddwl Rhodri Morgan - ond mae pawb eisiau gwybod hefyd, beth sy ym meddwl Plaid Cymru. Yn ystod, (ac ar ol) y dadl ar y Cyllideb Terfynol cyn Y Nadolig, roedd e'n edrych fel bod Plaid Cymru eisiau creu glymblaid gyda'r Blaid Lafur. Roedden ni i gyd yn disgwyl clywed bod Rhodri Glyn, Ieuan Wyn Jones, Helen Mary ayb. yn paratoi cynllyn i helpu Llafur cario ymlaen fel Llywodraeth ar ol Mis Mai nesa. Ar ol darllen ei sylwadau heddiw, bydd rhaid i ni ail-feddwl.

Y cwestiwm mwya diddorol i mi ydi, oes na bosibilrwydd o ffurfio glymblaid 'enfys' rhwng Plaid Cymru, Y Democratiadd Rhydfrydol a'r Tories? Dyna beth dw i isho ystyried. Dw i eisiau gweld un opsiwn heb gynwys Blaid Lafur yn cael ei roi o flaen yr etholwyr. Dw i'n falch o ddweud yn blwmp ac yn blaen yr hyn dw i eisiau gweld. Beth amdanoch chi Rhodri Glyn? Chi sy wedi dechrau'r trafodaeth ar y pwnc ddadleuol hwn yn y Western Mail heddiw. Mae'n amser i chi ateb y cwestiwn eich hun.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home