Golygfa o Gymru Wledig

Saturday, December 09, 2006

Wobbly Wyn Jones - Helpwr Y Blaid Lafur

Wythnos 'od' iawn yn Y Cynulliad. Hanner awr wedi deuddeg, Dydd Mawrth rown i mewn cynhadledd y gwrthbleidiau yn Y Sennedd yn gwrando ar Ieuan Wyn Jones, Nick Bourne a Mike German yn siarad ac yn eistedd fel y Tri Gwr Doeth. Cynhaliodd arweinwyr y gwrthbleidiau y gynhadledd arbennig anarferol hon i gyhoeddi nad oedden nhw yn barod i dderbyn Cyllideb Terfynol y LLywodraeth. Ar ol derbyn cwestiynau oddi wrth Vaughan Roderick o'r BBC, roedd eu hatebion yn glir - i fi beth bynnag. Roedd yr arweinwyr yn barod i ffurfio 'glymblaid enfys' tasai Rhodri Morgan yn ymddiswyddo. Rown i'n siwr bod y botwm coch wedi cael ei wasgu.

Ond - hanner awr wedi dau fe ddaeth datganiad o swyddfa Ieuan Wyn Jones i 'esbonio' yn hyn roedd e wedi dweud. Na, Na, dydy e ddim yn barod i ystyried glymblaid enfys neu unrhyw fath o 'Caretaker Government' gyda Tories. Na fydd unrhyw cytundeb gyda Tories yn realistig. Ar ol i'r neges gyrraedd Y Siambr, daeth gwen i'r wyneb Rhodri Morgan. Doedd dim gwen ar wynebau Nick Bourne neu Mike German - na finnau chwaith. Dros y misoedd diwetha dw i wedi bod yn trio perswadio Plaid Cymru i edrych yn 'gariadus' tuag at y Tories newydd, rhesymol a Chymraeg - fel partner. Maen nhw wedi 'poeri ar fy llaw'. Unwaith eto roedd Plaid Cymru wedi smalio roedd diddordeb gyda nhw gael pwer - ond pan glaniodd y cyfle o gael pwer ar plat Ieuan Wyn Jones trodd e unwaith eto i Wobbly Wyn Jones, y dyn rwber - Helpwr y Llywodraeth Lafur.

Mae Etholiad yn dod Mis Mai nesa a dw i isho pobl Cymru cael dewis - Llywodraeth Lafur neu Llywodraeth heb Lafur. Yr unig ffordd i gael dewis hyn ydi trwy rhyw fath o drefniant rhwng Plaid Cymru a'r Tories. Dw i'n barod i ystyried hwn syth ar ol yr etholiad - ond mae Plaid Cymru wedi penderfynnu yn barod eu bod nhw isho helpu sicrhau bydd Rhodri Morgan yn cario ymlaen fel Prif Weinidog dros y blynyddoedd nesa hefyd. Does neb eisiau gweld glymbaid rhwng Rhodri a Wobbly.

2 Comments:

Post a Comment

<< Home