Golygfa o Gymru Wledig

Wednesday, November 08, 2006

Mae'r dyfarnwr bob tro yn iawn

Unwaith eto, rygbi sy ar y blaen wrth ddangos i'r byd sut i ymddwyn. Creuodd ymateb tim rygbi Lloegr, Dydd Sul diwetha, ar ol i ddyfarnwr wrthod cais Jamie Noon argraff ardderchog. Sut ydw i'n mynd i gario ymlaen i gefnogi bob tim sy'n chwarae yn erbyn Lloegr os bydd chwaraewyr yn dangos y fath urddas.
Meddyliais i am hyn ar ol clywed ein dyfarnwr ni, Dafydd El, yn cael ei feirniadu - a chlywed beirniadaeth gwarthus gan y chwaraewyr Chelsea tuag-at y dyfarnwr, Graham Poll ar ol iddyn nhw golli gem yn erbyn Tottenham.
Rhaid i mi gyfadde hefyd, roeddwn i'n siomedig i glywed Aelodau Seneddol yn gwaethu ar y Llefarydd yn y Ty Cyffredin ar ol iddo fe dorri ar draws David Cameron pan oedd e'n holi'r Prif Weinidog, Tony Blair. Dw i'n credu bod 'Gorbals Mick' yn Llefarydd ofnadwy ac roedd e'n gamgymeriad mawr i stopio Cameron rhag ateb y cwestiwn. Roedd y Llefarydd 'allan o drefn' yn fy marn i.
Ond y gwir oedd bod Graham Poll hefyd yn anghywir - a weithiau byddai rhai yn dweud ambell tro yn gall Dafydd El fod dipyn o unben. Ond y lle i ddelio a chamgymeriadau ydi tu llan 'Faes y Gad'.
Y mwya' dw i'n meddwl am y peth, y mwya' o barch sy gen i tuagat hogiau Lloegr - ac yn enwedig tuagat Jamie Noon. Pinicl mwya' ei fywyd oedd scorio cais yn erbyn Crysau Duon a phan wrthodwyd y cais (penderfyniad anghywir yn ol pawb), yr hyn a wnaeth oedd codi ei ysgwyddau a chario ymlaen gyda'r gem.
Roedd ymddygiad Canolwr Lloegr yn siampl ac yn a wers i ni i gyd.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home