Golygfa o Gymru Wledig

Friday, October 27, 2006

Cynhadledd WLGA yn Llandudno


Dw i wedi bod yn siarad mewn Cynhadledd y WLGA yn Llandudno heddiew. Rown i rhy hwyr i glywed y sesiwn yn y bore pan roedd Peter Hain, Dafydd El, Nick Bourne a Lembit Opik yn drafod 'Datganoli - Y Ffordd Ymlaen'. Gofynodd rhwyun o'r cynilleidfa cwestiwn i Nick ' Fydd Plaid Cymru yn barod i ymuno glymblaid os bydd yr arwainydd yn Geidwadol'? Roedd pawb yn chwerthin. Dw i ddim yn siwr oedd Peter Hain yn ymuno nhw a dw i ddim yn gwybod beth atebodd Nick Bourne. Os rown i yna baswn i'n ateb 'Wrth cwrs'. Mae rhai ohonnon nhw, fel Rhodri Glyn a Janet Ryder yn mynd o gwmpas y lle ar hyn o bryd yn dweud 'Na'. Ond dw i ddim yn eu credu nhw. Ydyn nhw'n disgwyl fi credu bydd Plaid Cymru yn barod i gadw criw Rhodri Morgan mewn rym ar ol mis Mai nesa'? Fydden nhw'n mynd i droi eu cefnau ar y Ceidwadwyr modern sy wedi newid, sy'n cefnogi mwy pwer i'r Cynulliad, sy'n nawr mwy Gymreig na Lafur. Na. Mis Mai nesa', dw i'n disgwyl weld y 'Rainbow Coalition' yn dod yn gwirionydd. Dw'n hapus i weithio gyda Plaid a Lib Dems. Dw i ddim isso weld Lafur mewn rym am byth a dydy'r aelodau Plaid Cymru ddim isso hynny chwaith.

2 Comments:

  • Gwych eich gweld yn blogio yn Gymraeg, dalier ati yn wir!

    Os hoffech rhywyn i newid y template i Gymraeg, 'my profile', 'comments' ac ati yna rwy'n gwirfoddoli i wneud. gweler fy mlog http://golygongasyth.blogspot.com am enghraifft.

    By Blogger Aled, at 03 November, 2006 01:43  

  • cytuno cant y cant Glyn - clymblaid enfys yw'r ateb.

    Huw

    By Anonymous Anonymous, at 10 November, 2006 08:56  

Post a Comment

<< Home