Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, November 30, 2006

Ser yr Wythnos - Hain a Bates

Y dau ddyn a ddomineiddiodd Y Cynulliad wythnos yma oedd Yr Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain a Mick Bates. Dim ond unwaith y flwyddyn mae Peter Hain yn dod i'r Cynilliad i wneud Datganiad ar Araith Y Frenhines a chymryd rhan yn y ddadl sy'n dilyn y Datganiad. A rhaid i mi gyfadde, bod Peter Hain yn wleidydd trawiadol. Mae e'n edrych yn well wrth gwrs, oherwydd bod Aelodau yn ei gymaru e ar Prif Weinidog, Rhodri Morgan. Ces i gyfle i siarad yn y dadl a dw i'n credu scoriais pwynt ar ol dweud wrtho fe bod Llywodraeth Tony Blair yn fyw tebygol o breifateiddio y sector addysg na unrhyw blaid yn Y Cynulliad. (Roedd e wedi awgrymu bydd y Llywodraeth yn San Steffan yn gwrthod derbyn mesurau afrhesymol bydd yn dod o'r Cynilliad o dan y pwerau newydd - fel preifateiddio addysg) . Siaradais ar y bwriad i wneud Deddf Newid Hinsawdd. Dw i'n croesawu hwn ac yn edrych ymlaen at weld yr hyn sy yn y Papur Gwyn. Roedd y dadl un dda yn fy marn i.

Ond beth digwyddodd dydd Mercher? 'Digwyddodd' Mick Bates, comediwr Y Cynulliad. Ynghanol y sesiwn llawn 'cododd ei fys' i rhwyn. Doedd neb yn gwbod pwy. Ond gwnaeth e yr arwydd anfoesgar yn syth ar ol i Dafydd El weiddi ar Rhodri Glyn Thomos i gadw trefn. Ond rhaid i mi dweud roedd esgus Mick yn arbennig o ddyfeisgar. Dywededd ei fod yn ceisio esbonio i Rhodri Glyn pa bys i'w ddefnyddio i wasgu botwm i bleidleisio. Roedden ni'n lwcus bod dim angen gwasgu dau fotwm arnon ni!! Mae e'n headdu gwobr am hynnu.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home