Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, December 17, 2006

"Annwyl Ieuan"

Ar ol darllen erthygl Rod Richards yn Golwg wythnos diwetha, ces i freuddwyd. Breuddwydiais am lythr a 'sgrifennais i at Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru. Roedd y llythr yn mynd fel hyn:

"Annwyl Ieuan,

Dw i'n gwybod bod yr wythnos diwetha wedi bod yn un annodd iawn i chi. Ond peidiwch torri eich calon. Os 'dych chi'n barod i wrando ar hen ffrind, bydd posibilrwydd i chi fod yn Brif Weinidog wedi cwbl.
Dw i'n deall pam dych chi'n teimlo dipyn bach yn 'bruised' ar ol i fi ag Alun Cairns eich disgrifio chi fel arweinydd 'wobbly' ond doedd neb ar fai ond chi eich hun. Os nad oeddech chi'n barod i arwain ryw fath o 'Caretaker Government' beth yn y byd oedd y rheswm i chi i wahodd Nick Bourne a Mike German allan i'r gynhadledd i gyhoeddi bod y tri ohonoch chi yn barod i bleidleisio yn erbyn y cyllideb terfynol. Rown i'n barod i rhoi fy nghefnogaeth i chi fel Prif Weinidog!!
Rhaid i mi gyfadde roedd cydymdeimlad gyda fi atoch eich sefyllfa. Dw i'n gwybod roedd rhaid i chi ffindio rhyw ffordd allan o'r twll a rhyw rheswm i ganiatau Cyllideb Terfynol Sue Essex i'w gael ei phasio. Dw i'n deall hefyd roedd rhaid i chi smalio eich bod chi wedi llwyddo i gael myw o arian at addysg - hyd yn oed os nad mond ceiniogau.
Roedd y ddadl ar y Gyllideb yn un siomedig iawn i fi. Beth oedd y pwynt i'r Tories ac ACau Plaid Cymru cael ffrae cyhoeddus fel na. Doedd o'n helpu neb ond y Blaid Lafur. Dyna'r rheswm gwrthodais i gymryd rhan mewn nonsens a'r rheswm y canalbwntiais i ar y llwyddiant cawsoch chi a Mike a Nick yn y trafodaethau ar Tir Mynnydd. Ac rhaid i mi longyfarch chi hefyd am eich araith rhesymol iawn.
Dw i'n gwybod bod yr hanes rhwng ein pleidiau ddim yn bositif iawn ac mi fydd e'n annodd iawn i rai o'n cefnogwyr yn y ddau blaid yn feddwl am weithio gyda'n gilydd. Ond erbyn heddiw mae pethau wedi symud ymlaen. Gobeithio, dych chi'n barod i gyfadde bod y Tories wedi newid o dan arweinyddiaeth David Cameron. Dyn ni'n fwy Cymreig, yn fwy rhesymol, ac yn hollol gefnolog tuag at ddatganoli a'r Cynulliad. Mae rhai ohonon ni nawr isho gweld yr un pwerau sy yn Yr Alban yma yng Nhymru. Beth mwy dych chi isho?
Wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysica ydi' r hyn sydd orau i Gymru. Dyna beth dw i'n ei ddweud wrthoch chi yn y llythr hon. Peidiwch gwerthu eich enaid i Blaid Lafur. Cofiwch 'sgidiau cryfion y Blaid Lafur sy wedi sathru ar gwddf Cymru dros y ganrif diwetha. Mae ein gwlad yn haeddu gwell na hynny ar ol Mis Mai nesa. Wrth gwrs bydd Plaid Cymru a'r Tories isho ennill digon o seddau i lywodraethu ar eu pen eu hunain. Ond os na fydd hwn yn digwydd peidiwch troi eich cefn ar y Tories.
Ac wrth gwrs yn ogystal, bydd pethau yn dibynnu ar pa un ohonon ni sy'n gael y mwyafrif o seddau. Dw i'n barod i ystyried chi fel Prif Weinidog. Ydych chi'n barod i ysteried cefnogi Tory fel Prif Weinidog?

Cofion gorau, Glyn"

Ond nawr mae'r larwm yn canu a dw i'n ol yn y byd realistig.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home