Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, December 21, 2006

Un Nadolig Arall

Roedd fy nhad yn gweiddi o'i wely.
"Cadwch ddistaw blant. Dw i'n ceisio cysgu o hyd."
Rown i'n cwerthin a chwarae gyda set Meccano newydd
a bwyta siocled a nougat cyn ein creision yd.
Dyna ffordd dw i'n cofio Dydd Nadolig amser maith yn ol.

Ar ol gwydd, daeth Taid a Nain Coedtalog draw.
Hi'n gwisgo porffor a dweud y drefn wrtho i.
"Cymro heb Cymraeg". Byddai'n falch iawn heddiw.
Cosb oedd sannau gwlan, llwyd, ac yn cosi.
Dyna ffordd dw'n cofio Dydd Nadolig amser maith yn ol.

Cyn mynd i gysgu, es i allan i'r tywyllwch dawel.
Bachgen bach o gefngwlad ar ei ben ei hun.
Meddwl am atgofion hapus ac atgofion trist.
Meddwl hefyd am ddyfodol pan fydd yn ddyn.
Dyna ffordd dw i'n cofio Noswaith Nadolig amser maith yn ol.

Nawr, fi sy'n gweiddi o fy nghwely.
"Cadwch ddistaw blant. Dw i'n ceisio cysgu o hyd".
Maen nhw'n chwerthin a chwarae gyda'u Ipods newydd
a bwyta siocoled a nougat cyn eu creision yd.
Ond dw i ddim yn gallu cysgu. Wedi cyrraedd Dydd Nadolig arall.

Gwyl hapus. Twrci mawr. Gwin Champagne a than gwyllt.
Pawb wedi blino. Gwraig a phlant yn ymlacio yn y ty.
Fel arfer, dw i'n cerdded allan i'r tywyllwch dawel.
Tywydd newidiol, weithiau wyn a weithiau ddu.
Dw i'n ddiolchgar cyrraedd un Nadolig arall.

Distawrwydd. Dim ond Llygoden y Maes yn gwibio.
Meddwl am fy nheulu sy ddim gyda ni nawr.
Meddwl am fy set Meccano a thy bach, Craig-y Gof.
Y rheswm yn gyfrinach. Mae dagrau rhedeg lawr
fy wyneb. Teimlo'n drist a chofio sawl Nadolig arall.

Sydyn, mae cadno coch yn screchian. Mae'r byd yn cario mlaen.
Bydd Calan yn dod. Un drws yn cae ac un arall yn agor.
Dw i'n gallu weld fy mhab yn cerdded yn y tywyllwch dawel
pan na fydda i'n hel meddylion rhagor
Bydd e'n meddwl am ei blant. Noswaith Nadolig arall.

Taurus ap Thomas (aka Glyn Davies)

0 Comments:

Post a Comment

<< Home