Golygfa o Gymru Wledig

Friday, January 12, 2007

Ydi Glymblaid Enfys Posibilrwydd Realistig?

Bydd pob blaid gwleidyddol yng Nghymru mynd i weithio'n galed i ennill bob pleidlais a bob sedd sy'n posib i gael, yn yr etholiad ym Mis Mai nesa. Ond dy ni'n gwybod yn barod bydd yn annhebygol bod un blaid yn mynd i ennill digon i lywodraethu ar ei ben ei hunen. Bydd rhaid i ni gael rhyw fath o bartneriaeth.

Ar hyn o bryd, mae sylwebwyr yn son am glymblaid rhwng Lafur a Plaid Cymru, neu rhwng Lafur a'r Democratiaidd Rhyddfrydol. Wel, dw i eisiau gweld opsiwn, heb Lafur o gwbwl, o blaen yr etholwyr hefyd. I ganiatau hwn yn digwydd, bydd rhaid i ystyried Clymblaid 'Enfys' rhwng Plaid, y Lib Dems a'r Tories. Bydd rhaid i ystyried clymblaid gynnwys y Ceidwadwyr mewn yr opsiwnau hefyd.

Dw'n gwybod bod ACau Plaid Cymru, a Lib Dems hefyd, ddim yn barod i dderbyn mae hwn yn posibilrwydd - ond dw i ddim yn barod i dderbyn eu sefyllfa ar y mater hwn. Dw i eisiau Tories i apelio dros pennau yr ACau i'r cefnogwyr y dau blaid. A dw i'n mynd i ddweud wrthon nhw bydd Cymru yn haeddu newid o'r Lafur ar ol ganrif, ac yr unig ffordd i gael hwn ydi trwy gweithio gyda ni.

Pan rown i'n siarad a Martin Shipton ar y mater hwn ddoe, gofynodd e beth ydi'r problemau mwya sy'n mynd i rhoi stop ar Clymblaid 'Enfys'. Atebais i bod sawl problem, ond mae tri problem mawr. Yn cynta, bydd rhaid i ni ganalbwyntio ar ein delwedd. Bydd rhaid i ni bodloni y bobl Cymru bod y Ceidwadwyr yn Blaid 'Cymreig' a blaid sy'n barod i ddilyn y ffordd gorau i roi fantais i Gymru.

Yr ail mater ydi referendwm ar pwerau llawn i'r Cynulliad yn 2011. Wel, dw'n barod i ganvasio am y polisi hwn. Ac hefyd, dw'n credu bydd Blaid Lafur yr unig blaid a fydd yn erbyn y referendwm ar pwerau llawn. Beth bydd y cefnogwyr presenol Plaid Cymru yn meddwl am hwn?

Y trydydd rheswm ydi mwy annodd i fi - oherwydd dw'n erbyn PR (proportional representation) i ethol Awdurdodau Lleol. Ond dw'n barod i dderbyn referendwm ar y mater hwn hefyd. Na fydd y Blaid Lafur yn barod i dderbyn hwn. Beth bydd 'activists' y Plaid Democrataeth Rhyddfrydol yn meddwl am hwn?

Dw i'n gwybod bod ACau Plaid Cymru a Lib Dems yn credu bod anfantais os bydden nhw'n symud rhy agos i'r Tories. Dw i eisiau sicrhau bod anfantais os bydden nhw'n symud rhy agos i Blaid Lafur hefyd.

2 Comments:

  • Rydych yn son am ddau bosibilrwydd o lywodraeth ar ôl mis Mai Clymblaid Llafur a Phlaid a/ neu Lib Dems, neu glymblaid enfys Plaid / Ceidwadwyr/ Lib Dems (? ac annibynwyr).

    Mae yna drydydd posibilrwydd sef clymblaid o'r 60 aelod. Does dim cyfrinach mae dyma oedd dymuniad Dafydd Wigley a Ron Davies ar gyfer y Cynulliad cyntaf - er mwyn i'r Cynulliad cael cyfle i setlo i lawr, heb rwystredigaeth gelyniaeth wleidyddol.

    Mae Dafydd Wigley wedi awgrymu mae da o beth bydda adfer y syniad yma er mwyn i'r Cynulliad dod i arfer efo'i phwerau newydd wedi mis Mai. Dwi ddim yn gweld o'n digwydd yn bersonol, ond rwy'n siŵr mae dyma yw dymuniad y Blaid.

    Yr wyf wedi pleidleisio i'r Blaid mewn pob etholiad ers mis Hydref 1984, ond oni bai fy mod yn cael y sicrwydd na fydd y Blaid yn cadw Llafur mewn grym ar ôl mis Mai, mi fyddwyf yn bwrw pleidlais dros y Torïaid yn yr etholiadau ar gyfer y Cynulliad.

    Mi fyddwyf yn torri fy nghalon wrth wneud, wedi bod yn driw i'r achos Cenedlaethol ar hyd fy oes. Ond dim ond un blaid yng Nghymru sydd wedi dangos casineb bwriadol tuag at yr Iaith a'r diwylliant Cymraeg - y Blaid Lafur. Yn sicr mae'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr wedi esgeuluso Cymru, ac wedi gwneud niwed i Gymru ar adegau - ond yn anfwriadol trwy beidio ag ystyried effaith eu polisïau ar yr iaith a'r diwylliant. Ond mae yna aelodau o'r Blaid Lafur sydd (gan gynnwys rhai ACau) yn gwneud niwed i'r iaith yn fwriadol. Nid ydwyf am bleidleisio dros unrhyw blaid, gan gynnwys y Blaid Genedlaethol, os ydynt am gadw'r fath bobl mewn grym.

    By Blogger Alwyn ap Huw, at 18 January, 2007 19:01  

  • Mae sylwadau 'abermaw' yn diddorol iawn. Dw i ddim yn credu bydd clymblaid o'r 60 ACau yn realistig - ond dw i'n gobeithio bydd y llywodraeth a gwrthblaid(au) newydd yn gweithio gyda gilydd yn well ar ol yr etholiad Mis Mai nesa. Rown i'n falch gweld bob un ohonon ni'n croesu y swyddi newydd sy'n dod i St Athan yn ystod y wythnos diwetha.

    Fy uchelgais ydi newid yr agwedd pobl Cymru tuag at ein blaid ni. Os bydd digon o gefnogwyr Plaid Cymru a Democrateaeth Rhyddfrydol yn barod i ystyried gweithio gyda Tories, bydd rhaid i eu arwyddyddion yn gwneud yr un peth.

    Ar ol clywed y ffordd mae gwleidyddion fel Adam Price a Rhodri Glyn wedi bod yn siarad dros y wythnosau diwetha dw i'n siwr bod clymblaid gyda Lafur ar eu agenda. Bydd llawer o bobl fel abermaw ddim yn barod i dderbyn hwn. Bydd croeso iddyn nhw yn y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

    By Blogger Glyn Davies, at 20 January, 2007 10:10  

Post a Comment

<< Home