Golygfa o Gymru Wledig

Wednesday, January 03, 2007

Llywydd Yr Eisteddfod

Ces i wahoddiad heddiw i fod yn llywydd Eisteddfod Kerry yn Sir Drefaldwyn, Mis Mehefin nesa. Rown i'n meddwl y basai hyn yn gyfle da i mi ymfarfer fy Nghymraeg, a ffoniais i y rhif ffon ar y gwahoddiad yn syth. Ond mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal trwy'r Saesneg yn unig. Dim Cymraeg o gwbl. Dw i'n cofio pan rown i'n ddyn yn fy arddegau, roedd 'Steddfod Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn yn ddwyeithog, a rown i'n gallu cystadlu yn Saesneg. Enillais y gadair ddwywaith yn y chwe'dagau. Roedd hyn yn fwy na dipyn o syndod i fy ffrindiau ym Mae Caerdydd heddiw. Beth bynnag, dw i'n edrych ymlaen at y noson arbennig yma ym Mis Mehefin ac i'r anrhydedd o fod yn llywydd yr Eisteddfod am y tro cynta. Ar ol blogio am flwyddyn, gobeithio fy mod i'n gallu cystadlu yn Yr Eisteddfod Genedlaethol.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home