Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, December 28, 2006

Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn colli allan

Mae ffigyrau newydd wedi dod o San Steffan heddiw sy'n ddangos bod llai o arian bob person yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru nag yn Lloegr, Yr Alban neu ogledd Iwerddon. Roedd mwy o arian bob person yn cael ei fuddsoddi yn yr NHS yng Nghymru nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon tan pedair blynedd yn ol. Roedd Yr Alban wedi bod ar frig y cynghrair trwy'r amser. Dyn ni'n gallu gweld nawr y rheswm pam fod amserau aros ac rhestrau aros dal yn hirach yng Nghymru na Lloegr. Rown i sgwrsio am y newyddion yma gyda Gary Owen ar raglen Post Cynta bore 'ma, ac roedd rhaid i mi gyfadde daeth y ffigyrau yn syndod i fi.

Dywedais i hefyd, bydd rhaid i'r llywodraeth newydd sy'n cymryd grym Mis Mai nesa rhoi mwy o flaenioriaeth ar y Gwasanaeth Iechyd pan fydd y Gyllideb ar yr agenda, blwyddyn nesa. Dydy e ddim yn dderbyniol gan bobl Cymru gweld cleifion cael triniaeth cyflymach dros y ffin yn Lloegr oherwydd bod y Llywodraeth yn San Steffan yn rhoi mwy o flaenoriaeth ar yr NHS. Gobeithio bydd y gwrthbleidiau i gyd yn cytuno a hyn a bydd llawer o gwestiynau yn cael eu gofyn yn y Cynulliad ar ol i'r ACau ddod yn ol mis nesa.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home