Golygfa o Gymru Wledig

Wednesday, January 03, 2007

Mwy o Ryw a Llai o Dorheulo

Yn ol y BBC heddiw, mae un o bob tri yng Nghymru yn credu mai ffawd sy'n achosi canser. Mae'r canran hwn yn uwch na nunlle arall yn y Deyrnas Unedig. Dw i ddim yn hollol siwr fy hun beth i'w gredu - ond dw i'n siwr mae'r help i adennill eich iechyd trwy cadw'n ffit a meddwl yn bositif. Roedd hyn yn help mawr i mi pan rown i'n diodde o ganser y coluddyn pedair blynydd yn ol.

Fy nghyngor i i bawb ydi i edrych ar ol eich corff, ysmygu llai, peidio mynd yn dew, cymryd mwy ymarfer corff, bwyta mwy o lysiau a ffrwythau, yfed mwy o ddwr a llai o alcohol, cael mwy o ryw a llai o dorheuho. Byddwch chi'n mwynhau eich bywyd yn well!

0 Comments:

Post a Comment

<< Home