Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, January 14, 2007

AC Arall yn Blogio

Ymwelais a 'blog' Leighton Andrews heddiw a gwelais bod e hefyd, wedi dechrau blogio yn Yr Iaith Cymraeg. Roedd e'n poeni am ei gamgymeriadau. Wel, does neb yn gwneud mwy o rheiny na fi, a does neb wedi cwyno eto. Wrth gwrs rhaid i mi dderbyn y posibilrwydd mai'r rhesym does neb yn cwyno ydi bod neb yn darllen fy mlog! Beth bynnag, gwnes i ymatebesboniais i ar 'blog' Leighton i ddweud "Peidiwch a phoeni. Cariwch ymlaen a mynd trwy eich 'post' gyda tiwtor". Dyna'r ffordd orau i ddysgu.

Un peth od dw i wedi ffindio wrth blogio trwy'r gyfrwng y Gymraeg. Does neb yn sylwi ar blogs Cymraeg fel maen nhw'n gwneud am blogs Saesneg. A does dim 'Spam ' yn y Gymraeg chwaith. Mae bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhy foneddig.

3 Comments:

  • Dwi wedi blogio yn gymraeg ers i mi ddechrau blogio yn 2005, Glyn! Wrth gwrs mod i'n blogio fel arfer yn Saesneg, ond ffeindi di stwff yn gymraeg ar pob fy mlogs - www.leightonandrews.net
    www.rhonddatoday.org a hefyd
    www.rhondda.tv.

    Beth bynnag, diolch am dy sylw

    By Blogger Leighton Andrews, at 15 January, 2007 13:10  

  • Sori Leighton. Fi sy'n newydd i'r byd bloggio yn y Gymraeg. Un problem i fi ar hyn o bryd ydi'r amser mae'n gymyd i orffen post. Dw i ddim yn gallu weithio digon gyflym yn y Gymraeg

    By Blogger Glyn Davies, at 20 January, 2007 10:25  

  • Efallai does neb yn gadael sylw ar ei blog chi am nad ydych yn gadael sylw ar flogiau Cymraeg eraill? Mae digon yno sy'n blogio am bethau gwleidyddol (a llai difrifol).

    By Blogger Rhys Wynne, at 26 January, 2007 07:12  

Post a Comment

<< Home