Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, January 14, 2007

Yn ol Llawn Amser - ac ar Ddydd Sul.

Yn ol at y byd gwleidyddol heddiw. Dw i ddim yn hoffi gweithio ar wleidyddiaeth Dydd Sul ond roedd rhaid i mi fynd i Landrindod i gyfarfod oedd yn dechrau am ddeg o'r gloch y bore ma a pharodd am y diwrnod llawn. Pwrpas y gyfarfod oedd paratoi ein hymgyrch ynglyn a'r etholiad sy'n digwydd ym Mis Mai. Wrth gwrs heddiw oedd y diwrnod cynta eleni digon sych i weithio yn yr ardd.

Dw i ddim yn gallu ysgrifennu am yr hyn a ddigwyddodd yn y sesiynau ffurfiol - ond ces i lawer o sylwadau anffurffiol dros cinio ar yr hyn dw i wedi bod yn dweud am bosibilrwydd Glymblaid 'Enfys' yn y Cynulliad ar ol Mis Mai. Roedd yn bleser mawr i mi glywed nifer o sylwadau yn cytuno a fi.

Mae'n amlwg i mi bod y Ceidwadwyr wedi derbyn yr hyn y mai PR yn golygu. Does neb yn hoffi'r syniad o glymblaid - ond dyn ni wedi dysgu mai hwn i'w unig ffordd i gael effaith ar bolisi y Llywodraeth yn y Cynulliad. Dyn ni hefyd yn gwybod yn iawn bod agwedd newydd y Tories yn achosi dipyn o embarrass i'r wrthbleidiau eraill - oherwydd dydyn nhw ddim eisiau gweld Tories ar 'eu' tir nhw, trafod glymblaid ac yn edrych am ran o'r grym.

Heddiw dw i wedi sylwyddoli bod y Ceidwadwyr, fy mhlaid i, yn barod i rannu'r pwer gyda phlaid arall(neu bleidiau eraill) yn y Cynulliad fel 'dyn ni wedi bod yn gwneud mewn awdurdodau lleol yn barod. Dw i ddim yn hoffi mynd allan ar Dydd Sul ond mwynhauais fy hun heddiw.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home