Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, January 21, 2007

'Cymuned' Ehangu ei gorwelion

Erthugl diddorol gan Matt Withers yn y Wales on Sunday heddiw. Mae Cymuned eisiau cysylltu a grwpiau eraill dros Brydain sy'n poeni am y broblemau sy'n wynebu pobl ifanc sy eisiau prynu eu ty cynta. Dw i'n croesawu polisi hwn.

Y problem ydi diffyg tai, a'r unig ffordd i ddelio ar problem ydi adaeladu llawer mwy o dai. Mwy o dai ydi'r unig ffordd i ostwng eu prisiau. Ond fydd dim pwynt gwneud hyn yng Nghymru yn unig. Bydd rhaid llefydd dros Brydain sy'n wynebu yr un problem yn dilyn yr un polici. Heb wneud hyn, yr unig canlyniad fydd bod pobl yn symud i Gymru i brynu y tai newydd - a gael effaith negyddol ar Yr Iaith Gymraeg ar yr un pryd. Gobeithio bydd Cymuned yn llwyddiannus yn dod o hyd i bartneriaid.

2 Comments:

  • Dwi ddim yn gwybod beth yw'r ateb, ond dwi'n anghytuno gyda'r awgrym byddai adeiladu mwy o dai yn ateb y broblem.

    Wrth gwrs bod poblogaeth sy'n henaeiddio a newid mewn patrymau teulu (mwy o bobl yn byw ar ben eu hunain) yn golygu mwy o bwysau ar y stoc tai, ond yn fy marn i y prif alw am dai yw gan pobl sydd eisiau buddsoddi mewn eiddo (unai fel pensiwn, neu i greu incwm).

    Nid yw'n anghyffredin i bobl fod yn berchen ar 10 tŷ neu fwy. Yn y 2-3 blynedd diwethaf dwi wedi gweld sawl datblygiad newydd (fflatiau yng Ngaherdydd a tai maint 1st time buyers mewn sawl tref yn y cymoedd gyda arwydd 'TO LET' arnynt, cyn i'r adeiladwyr orffen eu hedeiladu. Dwi'n eu galw'n Build to let.

    Dwi'n rhagweld petai yna raglen adeiladu graddfa fawr (ar lefel Cymrig neu Brydeinig), a bod prisiau tai yn gostwng ychydig - yr unig beth fyddai hyn yn wneud yw temptio pobl ychydig llai cefnog i fentro buddsoddi mewn 2ail dŷ.

    Fy neiws i fyddai trethu 2ail gartef yn uwch (unai trwy dreth cynogr neu dreth incwm). Efallai na fyddwch chi'n cytuno gyda'r fath ymyrraeth yn y farchnad, gan y byddai'n amharu ar hawl yr unigolyn i berchen faint o dai a fyno. Ond mae pob tŷ newydd yn
    - golygu colled mewn tir (amaeth neu barc chwarae)
    - mae adeiladu o'r newydd yn golygu llawer o lygredd
    - pob tro mae rhywun (cefnog) yn prynnu 2ail dŷ, mae nhw'n amddifadu (deny) person llai cefnog o dŷ/cartref 1af gan eu bod yn gwthio prisiau lan

    ......ac yna mae'r cylch yn dechrau eto, rhywun arall wedyn yn galw am fwy o dai i'w hadeiladu


    Oddi ar y pwnc, i osgoi sbam gallwch unai

    -Gosod 'Word Verification' ar sylwadau

    neu

    -Gosod 'moderate comments'
    (awgrymaf y 1af)

    By Blogger Rhys Wynne, at 26 January, 2007 07:29  

  • I wonder how you got so good. This is really a fascinating Golygfa o Gymru Wledig and all your post too, lots of stuff that I can get into. One thing I just want to say is that your Blog is so perfect to me.
    --------------------------
    Our www: Texas Hold'em Poker & No Deposit Poker & Poker ohne einzahlung

    By Anonymous No Deposit Bonus, at 12 February, 2012 06:13  

Post a Comment

<< Home