Golygfa o Gymru Wledig

Saturday, January 27, 2007

Papur Dyddiol Cymraeg

Oes digon o ddiddordeb mewn papur dyddiol Cymraeg? Mae 'Hen hac' wedi bod yn siarad a'r cylchgrawn, Golwg wythnos 'ma a thaflu amheuaeth ar y syniad. Mae e'n dweud bod "diffyg ddiddordeb ymysg y Cymry". Mae amheuaeth gyda fi hefyd. Fel yr 'hen hac', baswn i wrth fy modd yn gweld papur dyddiol yn cael ei chyhoeddi - ond dw i ddim yn gallu gweld papur dyddiol yn gwneud elw na llwyddiant. A fydd papur dyddiol sy'n dibynnu ar grantiau ddim yn gallu para. Mae'r 'hen hac' eisiau aros yn ddienw ond dw i'n barod i ddweud fy marn i yn cyhoeddus.

Dros y blynyddoedd diwetha dw i wedi cwrdd a Ned Thomas mwy nag unwaith i drafod y syniad yma o bapur dyddiol, a dw i wedi bod yn gefnogol iawn tuag at y syniad. Ond dw i'n credu bod y byd wedi symud ymlaen. Mae pobl yn siarad gyda'i gilydd ar blogs heddiw ac yn edrych ar y 'Newyddion' ar y we. Dw i wedi stopio gwilio y Newyddion fy hun. Nawr, dw i'n gwilio am hyn sy wedi digwydd 'ar lein'. Mewn gwirionedd, a bod yn realistig, does dim digon o bobl yn barod i brynu papur dyddiol Cymraeg.

Darllenais i yn Golwg bydd 'Y Byd' allan cyn diwedd yr haf. Gawn ni weld!. Gobeithio. fydda i'n anghywir - a bydd dim synwyr os bydd Ned ar y ffon. Ond rhaid i mi ddweud wrtho fe, dw i'n credu bod y byd wedi symud ymlaen ac mae cyfle wedi mynd.

1 Comments:

  • Wel, dw'i'n edrych ymlaen ato, ac mi fydda i'n tanysgrifio'n syth. Ond mae o wedi cael ei ohirio unwaith eto, y tro 'ma tan yr ar ôl yr haf.

    By Anonymous Anonymous, at 07 April, 2007 18:25  

Post a Comment

<< Home