Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, February 08, 2007

'Pawb a'i Farn' Heno

Hanner awr wedi un yn y bore a dw i newydd gyrraedd adre' ar ol ymddangos ar 'Pawb a'i Farn' yn Y Bontfaen. Heno oedd yr ail dro i fi ymddangos ar y rhaglen fel gwestai a rhaid i mi ddweud roedd y sioe llawer mwy haws na'r tro cynta. Mwynheuais bod ar y panel heno, oherwydd dw i'n admygu panelwyr eraill. Roedd Adam Price, AS Plaid Cymru a Carwyn Jones, AC Lafur yna. Weithiau wrth gwrs, dw i ddim yn cytuno a'r hyn mae nhw'n ei ddweud ond rhaid i mi gyfadde maen nhw'n wleidyddion trawiadol. Roedd arbenigydd gwleidyddol, Non Gwilym oedd y pedwerydd aelod ar y panel ac mae llawer o parch gyda fi tuag at ei barn hi hefyd

Roedd un cwestiwn heno ar Irac, un ar Fliw Adar, un ar prescripsiwnau am ddim ac un ar newid hinsawdd. Roedd cwestiwn ar Irac yn berffaith i Adam wrth gwrs, ond yn annodd iawn i Carwyn ar ol y ffordd y mae Rhodri Morgan wedi ateb yr un cwestiwn yn y gorffenol. Pan ron i'n ateb y cwestiwn ar Fliw Adar, do'n i ddim yn gwybod bod cysylltiad rhwng twrcwn yn Hwngari a thwrcwn yn Holton wedi cael ei cadarnhau. Taswn i wedi gwybod, baswn i wedi bod mwy beirniadol o'r Llywodraeth. Mae'n ymddangos mai problem 'biosecurity' ydi e - ac mae hyn yn fater i'r Llywodraeth. Roedd Non yn fantastic ar y cwestiwn o brescripsiwnau a chollodd Carwyn ag Adam y dadl. Doedd y cynylleidfa ddim yn dwp chwaith. Roedd y mwyafrif yn cytuno a Non. Mae pobl yn gallu gweld llwygrwobrwy pan mae'nos bydd rhy amlwg.

Bob tro dw i'n ymddangos ar y cyfryngau, dw i'n trio defnyddio geiriau newydd. Roedd tri gair newydd heno. Defnyddiais i 'dadwneud' a 'hunangyflogedig' ac 'amhoblogrwydd' am y tro cynta - triawd dda iawn. Gobeithio bydda i'n cael gwahoddiad i ymddangos ar 'Pawb a'i Farn' rhywbryd eto yn y dyfodol agos.

3 Comments:

  • Welais y rhaglen hon Glyn a odd y safon y dadleu yn dda gan bawb. Fel person sydd yn credi'n griff yn yr iaith Cymraeg (er bod fy sillafi ddim cystal ar fydd!) o ni'n hapus iawn gyda dy dewder i fynd ar y rhaglen. Yr ydych chi'n dangos esiampl wych i bobl Cymru sydd falle ddim yn cael yr hyder i hybir iaith.

    O ran y rhaglen ei hun mae'n rhaid i mi gyfadde' bod fi'n cefnogwr Plaid Cymru ac felly o ni yn hapus iawn gweld perfformiad cryf gan Adam. Ond hefyd o ni'n meddwl oeddech chi'n neud pwyntiau da ac fel yr ydych chi wedi son odd Non hefyd yn siarad yn dda iawn.

    Llongyfarchiadau Glyn
    O rhan y rhaglen ei hyn mae'n rhaid i mi cyfadde bod fi'n cefnogwr Plaid Cymru a fellu o ni yn hapus iawn gweld perfformiad cryf gan Adam. Ond hefyd o ni'n meddwl oddech chi'n neud pwyntiau da a fel yr ydych chi wedi son odd Non hefyd yn siarad yn dda iawn.

    By Blogger Che Grav-ara, at 12 February, 2007 03:58  

  • Dw i'n cytuno bod Adam Price yn gwleidydd dda iawn - ond bod e'n sosialaidd - fel mwyafrif o'i blaid. Dw i ddim. Dyna rheswm dw i'n Tori.

    Un peth od. Dw i'n siarad a llawer o bobl sy'n gefnogi Plaid Cymru a maen nhw'n ddweud pethau a chredu pethau sy'n mwy Tori na Sosialaidd. Dw i'n gwneud fy nghorau i berswadio nhw edrych arnon ni!!

    By Blogger Glyn Davies, at 12 February, 2007 08:59  

  • Credaf fod chi'n ymladd brwydr anodd fynna Glyn!...Ond oeliaf da chi'n trio! Pob lwc gyda'r blog. Siŵr o fod byddai’n arsylwi yn aml. Diolch am yr ymateb

    By Blogger Che Grav-ara, at 13 February, 2007 01:41  

Post a Comment

<< Home