Yn ol i Gyneifio
Dw i wedi bod yn ystyried beth i wneud ar ol y 4ydd o Fai, os bydda i'n colli fy sedd yn y Cynulliad. Ar ol darllen Golwg heddiw, dw i'n gwybod. Bydda i'n dechrau cyneifio eto.
Mae'n edrych fel bydd y cneifwyr o Seland Newydd yn aros gartref eleni oherwydd bod Y Canghellor, Gordon Brown, yn bwriadu eu trethi nhw gormod. Bydd hwn yn handi iawn i fi. Does dim llawer o bobl yn gwybod hyn, ond dw i'n dipyn o gneifwr. Pan ro'n i'n ddyn ifanc yn fy arddegau, ro'n i'n mynd allan fel contractwr i gneifio o gwmpas y lle yn Sir Drefaldwyn. A dw i dal yn gallu gwneud y swydd tn iawn.
Ro'n i ar y llwyfan yn y Sioe Frenhinol yn Llanfair y Muallt pum mlynedd yn ol, a chyneifiais i tair dafad mewn pedair muned. Felly, cofiwch - os bydd defaid gyda chi sy angen gael eu cyneifio ar ol Mis Mai, ffoniwch fi os na bydd pethau yn weithio allan yn yr etholiad.

0 Comments:
Post a Comment
<< Home