Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, March 08, 2007

Pwy ydi Mike German

Dw i wedi dysgu o'r cylchgrawn, Golwg wythnos yma does neb o gwbwl yng Ngheredigion yn gwybod mai Mike German yr arweinydd y Democratiaid Rhydfrydol. Mae hwn dipyn od, oherwydd bod Democratiad Rhydfrydol, Mark Williams yr Aelod Seneddol sy'n cynrychioli yr ardal yn San Steffan. Daeth y gwybodaeth hyn allan mewn pol piniwn ar BBC wythnos diwetha. Rhaid i mi gyfadde does dim llawer o bobl yn gwybod pwy sy'n arwain Plaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol chwaith. Dydy Ieuan Wyn Jones a Nick Bourne ddim yn enwog iawn yng Ngheredigion.

Mae absonoldeb gwybodaeth am yr etholiad sy'n digwydd ym Mis Mai yn broblem i bob un ohonon ni sy eisiau y Cynulliad bod yn llwyddiannus. Mae yr un pol piniwn yn dweud dydy ddim llawer o bobl yn bwriadu pleidleisio yn yr etholiad. Y cwestiwn mawr ydi sut i newid agwedd popl Cymru, yn enwedig pobl ifanc tuag at y Cynulliad.

Yr unig ffordd mae Golwg yn awgrymu ydi dweud jocs anaddas - fel Rhodri. Pa fath o farn ydi hwn. Nesa, bydd y cylchgrawn yn awgrymu bod yn syniad da i gyrraedd yn hwyr i gwrdd a'r Frenhines. Neu mynd i siarad am Ryder Cup yn well na mynd i gofio pobl a chollodd eu bywydau yn y D Day landings. Na. Mae'r cyfrifoldeb ar y gwleidyddion ar y blaidiau i godi eu gem. Dw i ddim yn credu mai llawer o bobl yn gwybod bod Mike German yn arwain y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Drefaldwyn. Mae pawb yn credu bod Lembit Opik yn arwain y Blaid.

4 Comments:

  • "Nesa, bydd y cylchgrawn yn awgrymu bod yn syniad da i gyrraedd yn hwr i gwrdd a'r Frenhines."

    Neis ;-)

    By Blogger Tegwared ap Seion, at 08 March, 2007 17:00  

  • Nodyn ieithyddol Glyn
    Hwr = Prostitute

    Rhodri yn cyraedd yn hwr i'r Frenhines = Rhodri arrived as the Queen's Whore

    By Blogger Alwyn ap Huw, at 08 March, 2007 18:56  

  • Rhag ofn bod cyfreithwyr Rhodri (neu waeth byth HM EII) yn darllen, dylwn nodi mae HWYR (late) yw'r gair cywir yn y cyd-destun yma

    By Blogger Alwyn ap Huw, at 08 March, 2007 19:10  

  • Diolch. Dw i'n defnyddio blog i ddysgu scrifennu yn y Gymraeg - ond dw i ddim eisiau gwneud camgymeriadau fel disgrifio y Frenhines fel hwr. Dw i'n mynd i gywiro nawr.

    By Blogger Glyn Davies, at 09 March, 2007 01:30  

Post a Comment

<< Home