Golygfa o Gymru Wledig

Monday, July 02, 2007

Pwy eisiau Deddf Iaith Newydd

Mae'n ymddangos bod gwleidyddion yng Nghymru i gyd eisiau gweld Deddf Iaith Newydd. Ond, yn ol pol piniwn BBC Cymru, dydy'r mwyafrif pobl Cymru ddim o blaid Deddf Newydd. Roedd dros 63% yn dweud na ddylai sefyllfa presenol newid.

Ond, wrh gwrs, mae'n dibynnu sut oedd y cwestiwn cael ei ofyn. Dwedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, nad oedd y pol piniwn yn syndod iddo fe, oherwydd roedd y cwestiwn son am 'orfodi'. Basai'n disgwyl canlyniadau wahanol tasai cwestiwn cael ei aralleirio i gynnwys termau mwy cadarnhaol fel "Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog". Neu "Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog". Tasai cwestiwnau cael eu gofyn fel hyn, mae Hywel yn disgwyl mwyafrif o blaid. Dw i'n cytuno a fe.

Dros y blynyddoedd diweddar, dw i wedi clywed lot o son am Deddf Iaith Newydd - ond dim lot o fanylion am beth bydd gwleidyddion eisiau gweld yn y Deddf. Wel, does dim pwynt gael Deddf newydd heb newid. Yn personol, dw i eisiau gweld cyfrifoldeb ar cwmniau mwya darparu gwasanaethau yn ddwyieithog.


0 Comments:

Post a Comment

<< Home