Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, June 28, 2007

Elin Jones - Merch Fantastic

Dw i'n falch iawn gweld roedd Elin Jones yn dal cefnogi y Glymblaid 'enfys' i'r diwedd. Pan roedd ei harweinydd, a chyd-aelodau yn 'botlo allan', ac yn rhedeg 'nol i Lafur, roedd Elin (a Gareth a Janet R a Dai) yn sefyll allan galw am yr enfys.

Y rheswm dw i'n mor falch gweld agwedd Elin ydy'r profiad gweithio gyda hi dros y dau Cynulliad cynta. Dros y tair blynedd diwetha, rown i a Brynle, Mick Bates o'r Lib Dems ac Elin yn gweithio fel glymblaid 'enfys' yn y Pwllgor Ymgylchedd, Cynllunio a Chefngwlad. Roedd e'n gweithio'n dda. Sawl gwaith, roedden ni'n gorfodi y Gweinidog ail feddwl. Dyna rheswm dw i'n credur oedd Elin, Mick a Brynle mor awyddus i weld Tories, Lib Dems a Phlaid Cymru yn creu llywodraeth. Ond roedd ei Phlaid ddim barod i wrando. Drieni.

3 Comments:

  • Un o'r pethau sydd wedi bod yn amlwg o bleidlais Plaid Cymru parthed yr enfys yw bod mwyafrif y rhai a etholwyd mewn etholaethau wedi cefnogi'r Enfys. Y rhai o aelodau etholaethol y Blaid oedd yn gwrthwynebu'r enfys oedd y rhai efo'r mwyafrifoedd mawr (Dafydd El a Rhodri Glyn)

    Pe na bai Llafur wedi creu sefyllfa lle nad oedd modd i unigolion sefyll mewn etholaeth ac ar restr, rwy'n amau a fyddai gymaint o'r Pleidwyr a chafodd eu hethol, heb orfod poeni am farn y bobl gyffredin mewn etholaeth, mor gefnogol i'r Cochwyrdd.

    By Blogger Alwyn ap Huw, at 28 June, 2007 19:25  

  • Mae sylwadau rhai o garfan coch-gwyrdd yn neud imi deimlo'n falch nad ydw i'n aelod o Blaid.

    By Anonymous Anonymous, at 29 June, 2007 08:28  

  • Alwyn - pwynt dda am agwedd Rhodri Glyn a Dafydd El. Ond mae'n rhy hwr nawr. Yr un cwestion arall ydi'r canlyniad y cynhadledd Llafur ar Dydd Gwener. Yn anffodus, mae'r enfys wedi diflanni.

    sanddef - bod lle yn y Blaid Geidwadol!

    By Blogger Glyn Davies, at 02 July, 2007 14:32  

Post a Comment

<< Home