Golygfa o Gymru Wledig

Wednesday, June 27, 2007

Diwedd y ffordd i'r Glymblaid Enfys?

Dw i'n teimlo'n drist iawn wrth yscrifennu'r blog yma heddiw. Ond rhaid i mi gyfadde, mae'n edrych fel bod breuddwyd i gael glymblaid 'enfys' rhwng y Tories, Plaid Cymru ar Lib Dems yn y Cynulliad wedi dod i'r ddiwedd y ffordd. Wrth gwrs, bod posibilrwydd bydd aelodau cyfredinol un o'r ddau blaid yn wrthod cefnogi yr hyn mae Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones wedi cytuno - ond dw i'n disgwyl bydd pwysau mawr arnyn nhw i dderbyn y cynllun yn eu cyfarfodydd ym Mis Gorffennaf.

Mae pawb sy'n darllen fy mlog yn gwybod rown i am gytundeb rhwng Plaid Cymru a ni. Dw i'n dal i gredu bydd rhaid i ni weithio gyda Phlaid Cymru os dy'n ni eisiau bod yn rhan o'r llywodraeth yng Nhymru. Dyna rheswm dw i ddim gallu gweld sens o gwbl yn beirniadu nhw'n ormodol. Rown i'n falch iawn gweld Nick Bourne yn cymryd yr un lein heddiw, ar ol iddo fe clywed y cyhoeddiad gan Plaid Cymru.

Ond rhaid i mi ddweud roedd ymateb Mike German, ar ran y Lib Dems yn hollol chwerthinllyd. Dwedodd Mike, bod bob blaid yn y Cynulliad wedi colli ymddiried ym Mlaid Cymru. Y gwir ydy, bod y plaidiau i gyd wedi colli ymddiried yn y Lib Dems. Dyna'r prif reswm dydy'r glymblaid enfys ddim wedi ennill y dydd.

Wrth gwrs, dydy pethau ddim wedi gorffen. Dydy'r ferch ddew ddim wedi canu eto - fel mae'n dweud yn Saesneg. Os bydd cynhadledd Llafur yn gwrthod y cytundeb, bydd posibilrwydd gweld glymblaid Lib/Lab yn codi allan o'r bedd. Oh dear. Plis, Arglwydd.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home