Golygfa o Gymru Wledig

Monday, June 25, 2007

Sir Drefaldwyn yn Llundain

Es i allan ddoe i Gyfarfod Blynyddol Cymdeithas Sir Drefaldwyn yn Llundain. Cynhalwyd y cyfarfod yn Gregynog, ger Tregynon yn yr hen sir. Roedd llawer o hen gyfeillion yna - fel TAV Evans a yr Argwydd Hooson a'i wraig. Ac roedd Llywydd y Cymdeithas, Sioned Bowen yna hefyd.

Mae llawer o bobl yn nabod Sioned o'i gwaith yn y byd addysg. Ac mae pawb yn y byd Cymreig yn cofio ei mam hefyd. Ei henw hi oedd Sioned Penllan. Ond y tro cynta i mi gwrdd a hi, Mrs Jones o Trenewydd oedd hi. Yn y saithdegau pan oedd fy nghwraig yn mynd i wersi Gymraeg gyda hi, doedd gen i ddim diddordeb mewn dysgu'r Iaith. Dw i ddim yn siwr pam. Efallai, roeddwn i'n rhy brysur ar y pryd - yn gwneud arian. Dysgais i'r Iaith ar ol dod yn Aelod o'r Cynulliad - wyth blynedd yn ol.

Roedd yr Arglwdd Hooson yn Aelod Seneddol dda iawn pan oedd e'n cynrychioli Sir Drefaldwyn yn San Steffan. Dw i ddim yn siwr beth mae e yn ei feddwl ar ol clywed fy mod i wedi dweud fy mod i eisiau ei ddilyn. Ni dywedodd e na finnau un gair am hyn yn ystod ein sgwrs ddoe.

0 Comments:

Post a Comment

<< Home