Golygfa o Gymru Wledig

Friday, July 13, 2007

Yr Argwydd Roberts o Gonwy.

O'r diwedd, dw i wedi cael amser i sgifennu at yr Arglwydd Roberts o Gonwy heddiw, yn diolch iddo fe am y cyfraniad enfawr mae e wedi gwneud i Gymru ar Blaid Geidwadol dros y blynyddoedd. Safodd Wyn Roberts i lawr o'r wleidyddiaeth flaengar wythnos diwetha, pan ymddeolodd e o'r sefyllfa fel ein Llefarydd Swyddogol ar Meterion Cymrieg yn y Ty Arglwddi.

Rowddwn i wedi gweithio gyda Wyn dros y degawdau. Dw i'n gwerthfawrogi pa mor ddoeth oedd yr hen gwdihw. Yn amyl, roedd rhai o'i sylwadau yn unigryw ac yn annodd i ddeall. roedd rhaid i nabod e'n dda i wybod yr hyn oedd e'n dweud, weithiau! Ond mewn cyfeliad gyda Teili Griffiths ar S4C wythnos diwetha roedd Wyn yn siarad angyfredin yn glir, pan oedd e'n disgrifio gweidyddion a ddaeth yn amlwg yn y Blaid Geidwadol yn y nawdegau. Doedd e ddim yn hoff iawn o'u hunanoldeb a obsessiwn gyda dringo y polyn llithrig.

Os bydd Toris ifanc yn ofyn wrtha fi, pwy ydi siampl gorau iddyn nhw eu dilyn yn y byd gwleidyddol, dw i'n dweud Yr Arglwdd Roberts o Gonwy bob tro.

Monday, July 02, 2007

Pwy eisiau Deddf Iaith Newydd

Mae'n ymddangos bod gwleidyddion yng Nghymru i gyd eisiau gweld Deddf Iaith Newydd. Ond, yn ol pol piniwn BBC Cymru, dydy'r mwyafrif pobl Cymru ddim o blaid Deddf Newydd. Roedd dros 63% yn dweud na ddylai sefyllfa presenol newid.

Ond, wrh gwrs, mae'n dibynnu sut oedd y cwestiwn cael ei ofyn. Dwedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, nad oedd y pol piniwn yn syndod iddo fe, oherwydd roedd y cwestiwn son am 'orfodi'. Basai'n disgwyl canlyniadau wahanol tasai cwestiwn cael ei aralleirio i gynnwys termau mwy cadarnhaol fel "Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog". Neu "Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog". Tasai cwestiwnau cael eu gofyn fel hyn, mae Hywel yn disgwyl mwyafrif o blaid. Dw i'n cytuno a fe.

Dros y blynyddoedd diweddar, dw i wedi clywed lot o son am Deddf Iaith Newydd - ond dim lot o fanylion am beth bydd gwleidyddion eisiau gweld yn y Deddf. Wel, does dim pwynt gael Deddf newydd heb newid. Yn personol, dw i eisiau gweld cyfrifoldeb ar cwmniau mwya darparu gwasanaethau yn ddwyieithog.