Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, December 07, 2008

Peter Hain.

Mae Peter Hain wedi bod ar ein sginiau teledu trwy'r penwythnos. Rhaid i mi ddweud yn syth, dow'n i ddim yn meddwl bod e'n euog o wneud dim byd ond camgymeriad. Dydw i ddim yn meddwl bod e'n dyn anhonest o gwbl. Felly, dw i'n falch iawn i glywed na fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymryd camau yn ei erbyn mewn cysylltiad y roddion ariannol yn ei ymgyrch i ddod yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, yn lle John Prescott. Dw i'n siwr roedd y misoedd diwetha wedi bod yn amser annodd iawn i Peter a'i teulu, yn enwedig Liz, ei wraig.

Ond rhiad i ni cofio hefyd, roedd problemau mawr mewn y ffordd roedd ei ymgyrch yn gofrestru y roddion. Rhaid i ni cofio yr unig rheswm penderfynnodd y Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio cymryd camau yn erbyn unrhwyn yn 'tim Peter'. Roedd y galanastra mor ddrwg i wneud yn amhosib i ffindio allan gyda phwy oedd y cyfrifoldeb. Yn fy marn i bod rhaid i Peter cymryd rhan o'r cyfrifoldeb am beth digwyddodd.

Mae pobl yn y 'Bubble' yn y Bae Gaerdydd yn son nawr am Peter yn dychwelyd i'r Cabinet. Dw i ddim yn disgwyl hwn yn digwydd yn fuan. Ond wrth gwrs, mae'n posib bydd y Speaker yn San steffan yn ymddiswyddo, a bod yn posib bydd Paul Murphy cymryd ei lle. Does na ddim Aelod Seneddol Lafur arall yn sefyll allan. Hey presto! Peter Hain yn ol mewn Cabinet. Ac hefyd, os bydd e'n posib i'r Arglwdd Mandelson o Foy dod yn ol, budd popeth yn posib.

1 Comments:

Post a Comment

<< Home