Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, June 28, 2007

Elin Jones - Merch Fantastic

Dw i'n falch iawn gweld roedd Elin Jones yn dal cefnogi y Glymblaid 'enfys' i'r diwedd. Pan roedd ei harweinydd, a chyd-aelodau yn 'botlo allan', ac yn rhedeg 'nol i Lafur, roedd Elin (a Gareth a Janet R a Dai) yn sefyll allan galw am yr enfys.

Y rheswm dw i'n mor falch gweld agwedd Elin ydy'r profiad gweithio gyda hi dros y dau Cynulliad cynta. Dros y tair blynedd diwetha, rown i a Brynle, Mick Bates o'r Lib Dems ac Elin yn gweithio fel glymblaid 'enfys' yn y Pwllgor Ymgylchedd, Cynllunio a Chefngwlad. Roedd e'n gweithio'n dda. Sawl gwaith, roedden ni'n gorfodi y Gweinidog ail feddwl. Dyna rheswm dw i'n credur oedd Elin, Mick a Brynle mor awyddus i weld Tories, Lib Dems a Phlaid Cymru yn creu llywodraeth. Ond roedd ei Phlaid ddim barod i wrando. Drieni.

Wednesday, June 27, 2007

Diwedd y ffordd i'r Glymblaid Enfys?

Dw i'n teimlo'n drist iawn wrth yscrifennu'r blog yma heddiw. Ond rhaid i mi gyfadde, mae'n edrych fel bod breuddwyd i gael glymblaid 'enfys' rhwng y Tories, Plaid Cymru ar Lib Dems yn y Cynulliad wedi dod i'r ddiwedd y ffordd. Wrth gwrs, bod posibilrwydd bydd aelodau cyfredinol un o'r ddau blaid yn wrthod cefnogi yr hyn mae Rhodri Morgan a Ieuan Wyn Jones wedi cytuno - ond dw i'n disgwyl bydd pwysau mawr arnyn nhw i dderbyn y cynllun yn eu cyfarfodydd ym Mis Gorffennaf.

Mae pawb sy'n darllen fy mlog yn gwybod rown i am gytundeb rhwng Plaid Cymru a ni. Dw i'n dal i gredu bydd rhaid i ni weithio gyda Phlaid Cymru os dy'n ni eisiau bod yn rhan o'r llywodraeth yng Nhymru. Dyna rheswm dw i ddim gallu gweld sens o gwbl yn beirniadu nhw'n ormodol. Rown i'n falch iawn gweld Nick Bourne yn cymryd yr un lein heddiw, ar ol iddo fe clywed y cyhoeddiad gan Plaid Cymru.

Ond rhaid i mi ddweud roedd ymateb Mike German, ar ran y Lib Dems yn hollol chwerthinllyd. Dwedodd Mike, bod bob blaid yn y Cynulliad wedi colli ymddiried ym Mlaid Cymru. Y gwir ydy, bod y plaidiau i gyd wedi colli ymddiried yn y Lib Dems. Dyna'r prif reswm dydy'r glymblaid enfys ddim wedi ennill y dydd.

Wrth gwrs, dydy pethau ddim wedi gorffen. Dydy'r ferch ddew ddim wedi canu eto - fel mae'n dweud yn Saesneg. Os bydd cynhadledd Llafur yn gwrthod y cytundeb, bydd posibilrwydd gweld glymblaid Lib/Lab yn codi allan o'r bedd. Oh dear. Plis, Arglwydd.

Monday, June 25, 2007

Sir Drefaldwyn yn Llundain

Es i allan ddoe i Gyfarfod Blynyddol Cymdeithas Sir Drefaldwyn yn Llundain. Cynhalwyd y cyfarfod yn Gregynog, ger Tregynon yn yr hen sir. Roedd llawer o hen gyfeillion yna - fel TAV Evans a yr Argwydd Hooson a'i wraig. Ac roedd Llywydd y Cymdeithas, Sioned Bowen yna hefyd.

Mae llawer o bobl yn nabod Sioned o'i gwaith yn y byd addysg. Ac mae pawb yn y byd Cymreig yn cofio ei mam hefyd. Ei henw hi oedd Sioned Penllan. Ond y tro cynta i mi gwrdd a hi, Mrs Jones o Trenewydd oedd hi. Yn y saithdegau pan oedd fy nghwraig yn mynd i wersi Gymraeg gyda hi, doedd gen i ddim diddordeb mewn dysgu'r Iaith. Dw i ddim yn siwr pam. Efallai, roeddwn i'n rhy brysur ar y pryd - yn gwneud arian. Dysgais i'r Iaith ar ol dod yn Aelod o'r Cynulliad - wyth blynedd yn ol.

Roedd yr Arglwdd Hooson yn Aelod Seneddol dda iawn pan oedd e'n cynrychioli Sir Drefaldwyn yn San Steffan. Dw i ddim yn siwr beth mae e yn ei feddwl ar ol clywed fy mod i wedi dweud fy mod i eisiau ei ddilyn. Ni dywedodd e na finnau un gair am hyn yn ystod ein sgwrs ddoe.

Sunday, June 24, 2007

Oes dyfodol i'r Glymblaid 'Enfys'

Mae pawb gyda diddordeb mewn gwleidyddieath Cymreig yn gwybod am fy nghefnogaeth i'r Glymblaid 'Enfys' i redeg Y Cynulliad dros y pedair mlynnedd nesa. Ond fel llawer o bobl eraill, erbyn hyn dw i wedi cael digon o procrastineiddio. Pan oeddwn i'n gwilio ar y Politics Show heddiw, rown i'n gallu weld posibilrwydd bod y cyfle i greu 'enfys' wedi mynd. Yr hyn sy'n achosi problem ydy Ieuan Wyn Jones. Dydy e ddim yn gallu gwneud penderfyniad. Mae e'n dal bod rhy 'wobbly'. ac mae rhai o wleidyddion wedi colli patience.

Ar y Politics Show heddiw oedd Lembit Opik, Arweinydd y Democratiad Rhydfrydol yng Nghymru. Roedd e'n son am drafodaethau anformal rhwng Mike German a Rhodri Morgan sy wedi digwydd yn barod. Dwedodd e roedd e wedi bod mewn cysylltiad gyda Mike cyn mynd ar y rhaglen. Dwededd e mae e'n mewn cysylltiad gyda Mike bob dydd. Mae e'n gwybod beth sy'n digwydd ty ol y lleni. Dyna beth mae e'n dweud, beth bynnag.

Dw i wedi postio ar fy mlog Saesneg stori bach (allegory bel droed) am y sefyllfa hwn - a beth dw i'n meddwl am y ffordd mae Plaid Cymru yn behafio. 'Dw i - a mwyafrif o 'r ASau yn Y Cynulliad isso gweld Ieuan Wyn Jones fel Prif Weinidog. Mae'r gol yn agor. Mae'r Toris i gyd eisiau gweld e'n scorio gol - gol mawr ar rhan Plaid Cymru . Ond mae e'n dal yn wobblio. Ydy cyfle wedi mynd? Dyna'r cwestiwn.

Sunday, June 03, 2007

Sgwrs bach yn Ponterwyd.

Wythnos diwetha, pan roedden ni'n mynd adre' o Aberystwyth, stoppiais yn y garej ym Mhonterwyd i brynu petrol. Roedd car arall yna hefyd. Roedd y gyrrwr yn merch od iawn. Roedd hi'n eistedd yn ei char darllen map 'upside down'. Roedd ei gwallt bob lliw mewn enfys ac reodd hi'n edrych fel rhywun sy wedi bod ar cyffuriau. Ond roedd hi'n pert hefyd.

Windiodd hi ffenestr ei char i lawr a gofynnodd "Is this Ponterwood?" Roedd gwen cyfeillgar ar ei wyneb. "Ble wyt ti'n mynd", gofynnais i. "Essex" roedd ei ateb. Dywedais i "Syth ymlaen i'r cylchdro yn Llangurig, a throi i'r chwith. Wedyn, syth ymlaen i Essex".

Dw i ddim yn gwybod beth digwyddodd ar ol hynny.