Golygfa o Gymru Wledig

Sunday, October 05, 2008

Barn Peter Hain.

Dw i wedi penderfynu dechrau bloggio yn y Gymraeg eto. Ond bod un problem mawr. Does neb ar gael i gywiro fy nghramadeg, a neb i helpu fi gyda fy sillafu. Piedwch chwerthin. Yn siwr, bydd sawl camcymeriadau, ond yr unig fordd i ddysgu ydy defnyddio. 'Defnyddio neu Colli' ydy'r motto fi.

Roedd Peter Hain ar y 'Politics Show' ar BBC1 heddiw, ac roedd yr hyn a ddwedodd yn diddorol iawn. Dydy e ddim isso gweld referendwm ar drosglwddo pwerau llawn i'r Cynulliad am dros degawd. Dwedodd e bod mwyafrif aelodau Plaid Lafur yr erbyn yr addewid sydd mewn y Cytundeb 'One Wales' i gynnal referendwm cyn 2011 - ACau, ASau ac aelodau cyffredin. Mae'n amlwg nawr, does dim posibilrywdd gael referendwm cyn yr Etholiad Y Cynulliad nesa. Mae'n edrych dipyn fel roedd dim bwriad gyda Lafur i gynnal referendwm pan oedd Plaid Cymru a Lafur yn creu Y Glymblaid. Cofiwch - roedd Peter Hain yn rhan o'r trafodaethau ar y pryd. Beth bod y popl a chefnogodd Y Glymblaid yn meddwl ar ol clywed Peter heddiw. Bydd dim syndod i fi os bydd cyfarfod bach rhwng Rhodri Morgan ac arwainydd newydd y Lib Dems yn fuan yn y Blwyddyn Newydd.

Cwestiwn pwysica' nawr ydy "Beth ydy'r ffordd gorau ymlaen i bobl fel fi sy isso gweld Cynulliad gyda pwerau llawn". Bydda i'n bloggio ar y mater hwn y tro nesa.

2 Comments:

  • Croeso nol i flogio yn yr iaith fain Glyn!

    Ddim yn siwr o hyn mae'n rhaid i mi ddweud
    "Cofiwch - roedd Peter Hain yn rhan o'r trafodaethau ar y pryd"

    Mi wnaeth Peter Hain hi yn glir iawn nag oedd o yn cytuno o mynd i glymblaid gyda Plaid. "Will never happen" neu rhywbeth felly oedd ei eiriau o de? Mynd i'r glymblaid er gwaethaf Hain wnaeth Llafur, ac erbyn dydi ei eiriau o ddim gwerth gwario amser yn gwarndo arno. "Washed out has-been" fel sa'r sais yn ei ddweud!

    By Blogger Hen Ferchetan, at 06 October, 2008 09:51  

  • Paid a becso, mae hyd yn oed 'grumpy old farts' pedantic fel fi, yn llawer mwy 'tolerant' o'r Gymraeg..

    Byddai fy'n athrawes [hathrawes] Cymraeg yn troi yn ei bedd 'not least' achos fod hi'n stil yn fyw...

    By Anonymous Anonymous, at 23 November, 2008 14:21  

Post a Comment

<< Home