Golygfa o Gymru Wledig

Thursday, September 13, 2007

Yr Arglwydd Elfyn


Wel, down i ddim yn disgwyl clywed Elfyn Llwyd galw am Plaid Cymru newid polisi o ran anfon aelodau ei blaid i'r Ty'r Arglwyddi. Ond mae llawer o bethau wedi newid. Er enghraifft, mae Plaid Cymru wedi neidio mewn gwely gyda Lafur. Roedd hwn sioc i fi. (Beth bydd y pleidleiswyr yng Ngheredigion yn meddwl am hwn?) Ond wrth gwrs mae Elfyn tipyn hynach nawr. Mae'r 'ermine' yn edrych yn atyniadol. Mae'r feinciau yn edrych yn cyffyrddus. Bydd dim rhaid mynd allan chwilio am bleidlaisiau yn y dyfodol i gario ymlaen fel aelod clwb gorau yn y byd. Pob lwc Elfyn. Gobeithio byddet ti'n ennill dy freuddwyd. Rwyt ti'n headdu dipyn mwy amser i ymlacio. Gobeithio bydd aelodau dy blain yn edrych ar pethau trwy yr un llygaid a ti.

2 Comments:

  • Roedd dy bost Cymraeg diwethaf yn clodfori gwaith yr Arglwydd Roberts o Gonwy, dyn a roddodd lawer i Gymru trwy ei waith yn Nhŷ'r Arglwyddi

    Beth bynnag barn pobl am Dŷ'r Arglwyddi mae o'n rhan o'r drefn. Mae pob deddf yn gorfod cael ei basio gan Dŷ'r Arglwyddi yn ogystal â Thŷ'r Cyffredin.

    Fe wnaeth yr Arglwydd Roberts o Gonwy cymwynas fawr i bobl Cymru trwy sicrhau bod barn pobl Cymru yn cael ei glywed wrth i ddeddfau mynd trwy Dŷ'r Arglwyddi.

    Beth bynnag yw ein barn am Dy'r Arglwyddi, mae'n rhaid inni dderbyn ei fodolaeth, a'r ffaith ei bod yn chware rhan yn y ffordd mae Cymru yn cael ei rheoli. Os yw deddfau Cymru yn gorfod cael eu pasio gan Dy'r Arglwyddi, rwy'n credu ei fod yn bwysig bod pob lliw barn Gymreig yn cael ei glywed yn y tŷ, gan gynnwys barn Plaid Cymru.

    Rwy'n gwybod bod nifer o aelodau'r Blaid yn anhapus efo'r syniad o Arglwyddi'r Blaid, dydw i ddim rwy'n llwyr gefnogol!

    Mae Elfyn yn gwybod rhif fy ffôn - rho alwad Elfyn - mae 'na ryw dinc yn yr enw yr Arglwydd Alwyn o'r Bermo

    By Blogger Alwyn ap Huw, at 13 September, 2007 19:54  

  • Dw i'n hoffi syniad o Arglydd Glyn o Aberriew hefyd!

    By Blogger Glyn Davies, at 14 September, 2007 02:48  

Post a Comment

<< Home