Ydi Glymblaid Enfys Posibilrwydd Realistig?Bydd pob blaid gwleidyddol yng Nghymru mynd i weithio'n galed i ennill bob pleidlais a bob sedd sy'n posib i gael, yn yr etholiad ym Mis Mai nesa. Ond dy ni'n gwybod yn barod bydd yn annhebygol bod un blaid yn mynd i ennill digon i lywodraethu ar ei ben ei hunen. Bydd rhaid i ni gael rhyw fath o bartneriaeth.
Ar hyn o bryd, mae sylwebwyr yn son am glymblaid rhwng Lafur a Plaid Cymru, neu rhwng Lafur a'r Democratiaidd Rhyddfrydol. Wel, dw i eisiau gweld opsiwn, heb Lafur o gwbwl, o blaen yr etholwyr hefyd. I ganiatau hwn yn digwydd, bydd rhaid i ystyried Clymblaid 'Enfys' rhwng Plaid, y Lib Dems a'r Tories. Bydd rhaid i ystyried clymblaid gynnwys y Ceidwadwyr mewn yr opsiwnau hefyd.
Dw'n gwybod bod ACau Plaid Cymru, a Lib Dems hefyd, ddim yn barod i dderbyn mae hwn yn posibilrwydd - ond dw i ddim yn barod i dderbyn eu sefyllfa ar y mater hwn. Dw i eisiau Tories i apelio dros pennau yr ACau i'r cefnogwyr y dau blaid. A dw i'n mynd i ddweud wrthon nhw bydd Cymru yn haeddu newid o'r Lafur ar ol ganrif, ac yr unig ffordd i gael hwn ydi trwy gweithio gyda ni.
Pan rown i'n siarad a Martin Shipton ar y mater hwn ddoe, gofynodd e beth ydi'r problemau mwya sy'n mynd i rhoi stop ar Clymblaid 'Enfys'. Atebais i bod sawl problem, ond mae tri problem mawr. Yn cynta, bydd rhaid i ni ganalbwyntio ar ein delwedd. Bydd rhaid i ni bodloni y bobl Cymru bod y Ceidwadwyr yn Blaid 'Cymreig' a blaid sy'n barod i ddilyn y ffordd gorau i roi fantais i Gymru.
Yr ail mater ydi referendwm ar pwerau llawn i'r Cynulliad yn 2011. Wel, dw'n barod i ganvasio am y polisi hwn. Ac hefyd, dw'n credu bydd Blaid Lafur yr unig blaid a fydd yn erbyn y referendwm ar pwerau llawn. Beth bydd y cefnogwyr presenol Plaid Cymru yn meddwl am hwn?
Y trydydd rheswm ydi mwy annodd i fi - oherwydd dw'n erbyn PR (proportional representation) i ethol Awdurdodau Lleol. Ond dw'n barod i dderbyn referendwm ar y mater hwn hefyd. Na fydd y Blaid Lafur yn barod i dderbyn hwn. Beth bydd 'activists' y Plaid Democrataeth Rhyddfrydol yn meddwl am hwn?
Dw i'n gwybod bod ACau Plaid Cymru a Lib Dems yn credu bod anfantais os bydden nhw'n symud rhy agos i'r Tories. Dw i eisiau sicrhau bod anfantais os bydden nhw'n symud rhy agos i Blaid Lafur hefyd.